James Green
Torluniau leino a sgrin-brintiau gan James Green:
"Rwy’n artist/gwneuthurwr printiau sy’n gweithio o Sheffield. Fe wnes i ddarganfod creu printiau yn 2003 ar ôl i'm mam-yng-nghyfraith fenthyg rhywfaint o leino, offer ac inciau i fi. Ro’n ni wrth fy modd yn syth. Roedd rhywbeth (ac yn dal i fod) ynglŷn â natur anrhagweladwy y cyfrwng, gan weithio o fewn cyfyngiadau penodol a'r broses ffisegol sy’n fy nghyffroi i. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach ac rwy'n dal i gael fy nghyfareddu, ac mae corff mawr o'r gwaith hwn wedi cynnwys delweddau o asynnod.
Y print asyn cyntaf a gynhyrchais oedd 'Donkeys Disturbed By A Meteor Shower' yn 2008. Galla i ddim dweud beth yn union a’m denodd i greu‘r ddelwedd honno yn benodol, ond fe agorodd llwybr mynegiant cwbl newydd. Ces i fy nghymell i ddathlu asynnod (fel anifeiliaid sydd ddim yn cael eu cynrychioli'n dda iawn yn hanes celf, neu’n cael eu gwerthfawrogi’n gyffredinol) a chreu'r cyfansoddiadau hyn sy’n eu dangos yn mwynhau anturiaethau mewn byd dirgel, yn rhydd o unrhyw reolaeth neu gaethiwed dynol.
Ar gyfer yr arddangosfa, rwyf wedi creu fersiwn newydd o 'Donkeys Disturbed ...', i ddathlu 10 mlynedd o’m printiau asynnod".
Mae’r holl brintiadau ar werth wedi’u fframio neu heb eu fframio, ac mae’r cynllun Collectorplan yn eich galluogi chi i brynu darn unigryw o gelf a chrefft cyfoes dros gyfnod o 12 mis yn ddi-log.