John Hedley
Mae ein cyfres o arddangosfeydd unigol sy’n dathlu gwneud printiadau cyfoes yn parhau yn Oriel 6 gyda gwaith John Hedley o Fôn.
Mae gwaith John yn haniaeth organig sy’n esblygu, ac mae’n canolbwyntio ar y tebygrwydd rhwng prosesau fel haenu a rhydu mewn natur ac mewn gwneud printiadau fel ei gilydd. Mae’r casgliad hwn o brintiadau argraffiad cyfyngedig yn cael ei ysbrydoli gan ffurfiau daearegol anarferol ar ynysoedd Ynys Môn a Chreta, gan gyfuno gwneud printiadau intaglio traddodiadol gydag ysgythriad ffotobolymer a solar a grëwyd yn ddigidol.
Mae’r holl brintiadau ar werth wedi’u fframio neu heb eu fframio, ac mae’r cynllun Collectorplan yn eich galluogi chi i brynu darn unigryw o gelf a chrefft cyfoes dros gyfnod o 12 mis yn ddi-log.
Mae’r arddangosfa hon yn rhan o brosiect dwy flynedd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.