Reveal Printmakers

Reveal Printmakers

Datgelu
10 Tachwedd - 2 Mai 2021

Paulette Bansal / Kate Downes / Lesley Johnson / Helen Lacey / Jayne Pellington / Alison Sandford / Bridget Schilizzi / Alison Scott / Yvonne Walters

Mae ein cyfres o arddangosfeydd sy'n dathlu gwneud printiau cyfoes yn Oriel 6 yn parhau gydag arddangosfa o waith gan Reveal Printmakers - grŵp o wneuthurwyr printiau cyfoes o Ogledd Orllewin Lloegr, sy’n gweithio yn stiwdio arbennig Hot Bed Press yn Salford.

Mae eu gwaith yn amrywio o weithiau ffigurol dychmygus – gan gynnwys golygfeydd o dirweddau gwledig a diwydiannol, bywyd llonydd a phortreadau – i waith haniaethol llachar. Mae'r gwahanol dechnegau a ddefnyddir, sy'n cynnwys ysgythru, dyfrliwio, print sgrin, print leino a mono brint, yn dangos sut y gellir defnyddio gwead, lliw a llinell i greu effeithiau tra gwahanol a rhoi cipolwg ar y grefft o wneud printiau.

Mae’r brintiadau ar werth wedi eu fframio neu beidio. Mae’r Cynllun Casglu yn eich galluogi I brynu darnau o gelf gyfoes a chrefft unigryw dros gyfnod o 12 mis yn ddi-log.