Sarah Ross-Thompson

Sarah Ross-Thompson

Y Tirlun Tawel
3 Mehefin - 20 Hydref 2017

Mae ein cyfres o arddangosfeydd unigol sy'n dathlu gwaith argraffu cyfoes yn parhau yn Oriel 6 gyda Sarah Ross-Thompson.

Yn ei gwaith mae Sarah yn cyfuno lliwiau llachar inc ysgythru olew gyda blociau argraffu gludwaith sy'n hynod weadol eu natur. Mae'r casgliad hwn o argraffiadau collagraff yn archwilio amrywiaeth ddaearyddol cefn gwlad Prydain, o'i childraethau a'i llwybrau arfordirol creigiog, i goedwigoedd a thirweddau eang a'i hawyr enfawr.

Mae'r holl brintiadau ar werth wedi eu fframio neu beidio, ac mae'r Cynllun Casglu yn eich galluogi i brynu darnau o gelf gyfoes a chrefft unigryw dros gyfnod o 12 mis yn ddi-log.