Anrhegion o Gymru a'r ffiniau
Ellie Cliftlands / Jane Fairbairn / Clarrie Flavell / Amanda Hillier / Emily Hughes / Helen Jones / Miriam Jones / Vicky Jones / Lindsey Kennedy / Ann Lewis / Lima Lima Jewellery / Little Brown Bird Company /Jenny Murray / Mandy Nash / Niki Pilkington / Sara Piper Heap / Charmain Poole / Verity Pulford / Swondonkey / Mary Thomas / Jo Williams / Anna Wilson / Heulwen Wright / Lora Wyn
Rydym wedi dewis rhai o'r crefftwyr a'r artistiaid gorau yng Nghymru a'r Gororau ar gyfer ein harddangosfa y gaeaf hwn. Rydym yn gwybod y byddwch yn gweld rhywbeth y byddwch chi'n gwirioni arno i'w gadw i chi'ch hun neu i'w roi fel anrheg - o waith coed i ddillad gweu, gemwaith i lestri gwydr, gwaith celf gwreiddiol, printiau argraffiad cyfyngedig a chymysgedd hyfryd o eitemau cyfoes wedi'u gwneud â llaw. Mae'r prisiau'n amrywio, sy'n golygu bod rhywbeth addas i bawb yma.
Rydym ni'n flach o gefnogi gwneuthurwyr annibynnol yn ein siopau, ac mae'r incwm sy'n cael ei gynhyrchu hefyd yn cefnogi ein rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu.
Mae MOSTYN yn rhan o'r Cynllun Casglu, sy'n gadael i chi brynu darnau unigryw o gelf a chrefft gyfoes dros gyfnod o deuddeg mis yn ddi-log. Mae'r cynllun yn berthnasol os byddwch yn prynu darnau sy'n werth dros £50.
Mae Telerau ac Amodau'n berthnasol. Holwch yn y siop am fwy o fanylion. .