Atsain y Llanw
“Rwy’n byw rhwng Conwy a Llandudno ac rwy’n elwa o fod yn agos at Eryri a’r mynyddoedd, ac aber Afon Conwy. Rwy’n treulio cryn dipyn o amser ar y traeth yn Neganwy a thraeth y Morfa. Mae pob diwrnod yn siwrnai, yn profi’r newid ym myd natur, ac yn sylwi sut mae'r fam ddaear yn cyflwyno’i hun i’r byd; olion wedi’u gadael yn y tywod pan mae’r llanw ar drai, yn glir a siarp, rhigolau dwfn, eitemau wedi’u gadael gan y llanw, wedi’u pwyo gan stormydd, rhubanau o wymon, erydiad cregyn, creigiau, broc môr ac asgwrn.
Rwy’n gweithio’n syth ar y clai heb unrhyw syniadau pendant ynghylch sut beth fydd y gwaith. Rwy’n gweithio mewn stiwdio heb drydan o ddewis, gan ddefnyddio proses reddfol o wneud, a phinsio’r clai. Mae fy ngwaith yn cael ei wneud gan ddefnyddio torchau o glai wedi’u gwastatau, gyda defnyddiau eraill fel tywod a chleiau yn cael eu hychwanegu i newid gwead yr arwyneb. Mae’r gwaith yn cael ei wthio a’i binsio gan greu craterau a thyllau.
Mae ansawdd cyffyrddol cryf i’r gwaith gorffenedig, fel y ceir yn y byd naturiol. Ond, nid wyf am ddynwared natur, dim ond anelu at adleisio’r broses”.