The Birds and the Bees
Evelyn Albrow / Emma Aldridge / ARK / Xuella Arnold / Hannah Coates / Wendy Couling / Wendy Dawson / Sarah Falla / Ruth Green / Marian Haf / Sara Piper Heap / Stephanie Mann / Martha's Grandad / The Owlery / Pea J. Restall / Kate Rhodes / Seascape Curiosities / Rachel Sumner / Thimbleville / Liz Toole / Jane Williams
Mae’r haf wedi cyrraedd ein siop, gyda chasgliad llawn bwrlwm o grefftau a phrintiau cyfoes. Mae ein harddangosfa yn ein horiel fanwerthu, Yr Adar a’r Gwenyn, yn cynnwys cerameg, tecstilau, gemwaith a phrintiau gan artistiaid a gwneuthurwyr talentog o Gymru a ledled y DU.
Drwy gydol y flwyddyn, mae siop MOSTYN yn cyflwyno crefftau cyfoes o bob math, ochr yn ochr â dewis o gardiau cyfarch, anrhegion fforddiadwy, llyfrau a chylchgronau celf, deunyddiau celf a chasgliad o deganau ac anrhegion i blant creadigol. Os oes gormod o ddewis, talebau rhodd MOSTYN yw’r ateb delfrydol.
Rydym yn falch o gefnogi gwneuthurwyr ac artistiaid annibynnol yn ein mannau manwerthu, ac mae’r incwm a gynhyrchir hefyd yn cefnogi ein rhaglenni arddangos ac ymgysylltu. Mae pob pryniant yn gwneud gwahaniaeth!
Mae MOSTYN yn rhan o'r Cynllun Casglu, sy'n gadael i chi brynu darnau unigryw o gelf a chrefft gyfoes dros gyfnod o deuddeg mis yn ddi-log. Mae'r cynllun yn berthnasol os byddwch yn prynu darnau sy'n werth dros £50.
Mae Telerau ac Amodau'n berthnasol.