Charlotte Bellis
30 Mehefin -
30 Mehefin 2014
Magwyd Charlotte yn Eryri ag astudiodd yng Ngholeg Menai cyn symud ‘mlaen i’r ‘Instute of the Arts yn Cumbria’ ble yr arbenigodd mewn cerameg a thecstiliau wedi eu hargraffu. Wedi cyfnod o drafeilio yn y Dwyrain Pell a Ewrop dychwelodd i sefydlu ei stiwdio yng Ngogledd Cymru.
Tynnai Charlotte ei hysbrydolaeth o’r byd naturiol a ffurfiau organig gan ddarlunio golygfeydd ei brodorol Ogledd Cymru a’r golyfeydd a’r fflora a welodd yn ystod ei theithiau dramor.
Mae ei darnau arwyddnodol yn gelfyddyd hongian o borselin gyda lliw, siapiau a gwead sy’n atgofus o’r môr, planhigion a elfennau naturiol eraill. Mae pob elfen unigol wedi ei gerflunio a llaw i nifer o siapiau gwahanol cyn eu tanio i wres bisged sydd yna yn cael eu gwydro au hail danio cyn eu cydosod ar gylchoedd haearn .