Dylunio Cynnyrch BSc

Dylunio Cynnyrch BSc

Mewn partneriaeth gyda Prifygsol Bangor
1 Medi - 25 Tachwedd 2018

Elgan Jones / Steffan Jones / Jake Lovatt / Tom Mott / Charlie Ross

Mae MOSTYN a'r cwrs Dylunio Cynnyrch BSc ym Mhrifysgol Bangor wedi cydweithio ar brosiect dylunio i greu casgliadau o gemwaith ar gyfer yr siop MOSTYN.

Mae'r gwaith a arddangosir yn cynnwys casgliad o waith y myfyriwr, a ddewiswyd i'w harddangos. Mae rhai o'r themâu a archwilir gan fyfyrwyr yn ystyried naws am le, ennyn ymatebion emosiynol a chreu rhyngweithio chwareus. Mae'r technegau a ddefnyddir yn amrywio CNC torri, torri laser i dechnegau emwaith a gofannu arian traddodiadol.

Mae profiad yn hanfodol mewn unrhyw faes, a phrofiadau gyda chwmnïau a sefydliadau sy'n angerddol am ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o ddylunwyr a meddylwyr creadigol yn amhrisiadwy. Mae'r broses gydweithredu yma wedi sialensio'r myfyrwyr Dylunio Cynnyrch i ystyried gwerthoedd yr oriel, crefft a dylunio emosiynol. Mae hefyd wedi creu cyfle i ddysgu a datblygu sgiliau newydd, gweithio i oddefiannau manwl, ac yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr arddangos eu dyluniadau mewn maes proffesiynol.

Mae cwrs Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Bangor yw 1af yn y DU ar gyfer Bodlonrwydd Myfyrwyr ar gyfer Astudiaethau Dylunio (Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2018), a'r 1af ar gyfer Dylunio Cyflogadwyedd yn 2016 ar gyfer cyrsiau dylunio yn y DU (The Times Good University Guide). Yn ogystal â nifer o friffiau prosiect byw fel hyn, mae myfyrwyr yn gwneud tri lleoliad tra ar y cwrs - rhwng 8 a 10 wythnos bob blwyddyn, sy'n cyfuno eu profiadau proffesiynol, ac yn gwneud y cwrs Dylunio Cynnyrch yn unigryw yn y DU .