Ffenestr 'Dolig 2016: Adfent
Mae ADFENT yn gydweithrediad rhwng yr artist torri papur Chlöe Needham a’r wneuthurwraig printiau Sophie Schärer.
Maen nhw wedi cyfuno eu sgiliau papur a delweddaeth i greu calendr Adfent mawr, sy’n unigryw i Mostyn a Llandudno. Ysbrydolwyd y gwaith gan galendrau Almaenig traddodiadol yn ogystal â phensaernïaeth y dref.
Mae adeiladau a thirlun y dref yn cael eu cynrychioli’n gelfydd ac urddasol, gan ymgorffori manylion pensaernïol sydd wedi’u torri’n gywrain, a dau ddeg pedwar ffenest â rhifau addurnedig o liw aur wedi’u gosod ar draws tirlun y dref. Yn ystod mis Rhagfyr, bydd y ffenestri yn agor i ddatgelu dau ddeg pedwar o brintiau leino, pob un ohonyn nhw’n cynnig cipolwg ar fywyd tu mewn yr adeiladau yn ystod Adfent.
Wrth i fis Rhagfyr fynd yn ei flaen, bydd yr olygfa yn cael ei datgelu’n raddol a bydd coeden Nadolig y dref yn llenwi ag addurniadau.