Ffurfiau’n Lluosi
16 Mehefin -
30 Medi 2012
Tania Clarke Hall | Nobuko Okumur | Stephanie Ray | Margo Selby | Elisa Strozyk | Laura Thomas | DeeLyn Walsh | Chris Boland
Bydd y detholiad gan wneuthurwyr o Gymru, y DU a’r Almaen yn amlygu cysylltiadau newydd rhwng deunydd a ffurf. Mae eu harbrofion gyda phatrymau a rhyddmau geometrig yn creu gwrthrychau cain sy’n ymddangos yn lledrithiol eu natur. O garped tecstil pren gan y dylunydd Elisa Strozyk i gasgliad o emwaith ciwbiau hollt gan Stephanie Ray, bydd y cyflwyniad yma yn denu ac yn syfrdannu’r llygad.