I’r Gwyllt

I’r Gwyllt

03/02/18 - 03/06/18
3 Chwefror - 3 Mehefin 2018

Elaine Adams / Bobl Bach by Ceri Williams / Holly Suzanna Clifford / Louise Condon - Ceramic Botanist / Giles Davies / Brenda Day / Anna De Ville / Folded Forest / Little Peche / Katy Mai / Martha's Grandad / Jenny Murray / OR8 Design / The Owlery / Lizzie Pearce / Sara Piper Heap / Pea J Restall / Sarah Ross Thompson / Jenny Rothwell / Louise Schrempft / Helen Shere / Nell Smith / Danielle Sullivan / Alexandra Symons / Ruth Thomas 

Yn y Gwanwyn bydd yr oriel werthu yn siop MOSTYN yn dathlu’r awyr agored ag arddangosfa 'I’r Gwyllt'. Mae ‘I’r Gwyllt’, sydd wedi’i ysbrydoli gan gefn gwlad a’r blodau a’r anifeiliaid sy’n byw yno, yn cyflwyno detholiad o waith celf gwreiddiol, printiau argraffiad cyfyngedig a chrefftau cyfoes wedi’u gwneud â llaw, am brisiau amrywiol – anrhegion perffaith ar gyfer Sul y Mamau neu unrhyw ddiwrnod arall! 

Mae’r cynllun Collectorplan yn eich galluogi chi i brynu darn unigryw o gelf a chrefft cyfoes dros gyfnod o 12 mis yn ddi-log.