I’r Môr
Elaine Adams / Ruth Allen / Lisa Berkshire / Kirsti Hannah Brown / Sarah Jane Brown / Jo Bull / Francesca Colussi / Ken Cornwell / Brenda Day / Mari Elin / Gill's Emporium / Glass Relief / Marian Haf / Innerfinn Ceramics / Carwyn Jones / KJS Studio / Lois Kostiak / Katherine Lees / Katy Mai / Sarah Morgan / Noel Pannett / Estella Scholes / Simon Shaw / Elly Strigner / Rachel Sumner / Cheryl Steventon / Sophie Symes / Laura Weston / Karen Williams / Ceri Wright
Mae’r sioe newydd yn oriel fanwerthu MOSTYN yn dod ag artistiaid, gwneuthurwyr a gwneuthurwyr print at ei gilydd sy’n cael eu hysbrydoli gan y tirlun arfordirol. Mae’r sioe ‘I Mewn i’r Môr’, sy’n cyd-fynd â thema Croeso Cymru yn ystod 2018 sef ‘Blwyddyn y Môr’, yn cyflwyno eitemau unigryw sydd wedi’u creu â llaw, gan gynnwys gweithiau celf gwreiddiol, printiau wedi’u fframio a gemwaith, tecstiliau, cerameg a gwaith gwydr prydferth a grëwyd gan artistiaid a gwneuthurwyr newydd a rhai sydd wedi ennill eu plwyf o Gymru a thu hwnt.
Mae’r cynllun Collectorplan yn eich galluogi chi i brynu darn unigryw o gelf a chrefft cyfoes dros gyfnod o 12 mis yn ddi-log. .