National Eisteddfod Crown and Chair

National Eisteddfod Crown and Chair

Angela Evans and Gwenan Jones
18 Mehefin - 6 Gorffennaf 2019

Mae Coron yr Eisteddfod eleni, a noddir gan y gymdeithas dai, Grŵp Cynefin, wedi’i dylunio a’i chreu gan y gemydd cyfoes Angela Evans o Gaernarfon. Bu creu Coron yn freuddwyd i Angela erioed, ac eleni, cafodd gyfle i wireddu’i breuddwyd drwy greu Coron gywrain, hardd.

Cyflwynir y Goron am ddilyniant o gerddi heb fod mewn cynghanedd, ac heb fod dros 250 o linellau, ar y pwnc Cilfachau. Y beirniaid yw Manon Rhys, Ceri Wyn Jones a Cen Williams. Rhoddir y wobr ariannol gan John Arthur a Margaret Glyn Jones a’r teulu, Llanrwst.

Mae tair elfen allweddol yn rhan o gynllun y Goron, gyda’r tair haen o amlinellau metel yn creu delwedd gyffrous a modern sy’n gysylltiedig ag egwyddorion sylfaenol cymdeithas dai Grŵp Cynefin.

Yn yr haen gyntaf gwelir siapiau o dai arddulliannol, ond maen nhw, wrth gwrs, yn fwy na thai – dyma gartrefi i unigolion a theuluoedd yr ardal. Meddai Angela, “Mae ein diwylliant yn cael ei gynnal drwy ein cymunedau: yn y cartrefi hyn y mae ein pobl, ein hiaith a’n diwylliant yn ffynnu. Dyma sail y Goron, y rhan dalaf a’r cryfaf.”

Yn ail haen y Goron ceir trionglau – siâp sydd â chryfder naturiol – fel toeau i’r tai, yn cefnogi strwythurau yn erbyn pwysau ochrol, ac yn cynrychioli cynaliadwyedd yr ardal. Ac i goroni pob pinacl mae pêl gopr, un o nodweddion amlwg gwaith Angela fel gemydd proffesiynol. Tarddodd y copr hwn o hen fwynfeydd copr y Gogarth, Llandudno, ac fe gyflwynwyd ciwb 2cm o gopr llachar pur i’r Eisteddfod er mwyn ei ddefnyddio yng ngwneuthuriad y Goron.

Sir Conwy, y dyffryn gwledig a’r arfordir poblog yw ysbrydoliaeth y drydedd haen. Dŵr yw’r llewyrch sy’n llifo drwy’r ardaloedd o’r mynyddoedd i lawr y dyffryn ac i’r môr drwy Afon Conwy: daw â’i faeth fel cynhwysydd hanfodol i greu cymuned, amgylchedd a thirwedd llewyrchus, ac i sicrhau cynefin cadarn i ddyn ac anifail. Felly, llif y dŵr a welir yn yr haen olaf, yn fwa meddal llyfn i gyfleu symudiad y llif. Ac ar ei hyd, mae dafnau o ddŵr disglair wedi’u creu o garreg topas glas – lliw arwyddocaol gan ei fod yn efelychu lliwiau brand Grŵp Cynefin ei hun.

Nod Cyfrin Gorsedd y Beirdd sydd i’w weld ar flaen y Goron, o dan brif siâp triongl to’r tŷ, sydd wedi’i osod yno i’w amddiffyn. Ar waelod y goron, ysgathrwyd Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019.

Cyflwynir y Gadair am awdl neu gasgliad o gerddi mewn cynghanedd, heb fod dros 250 o linellau, ar y teitl Gorwelion. Y beirniaid yw Myrddin ap Dafydd, Llion Jones ac Ieuan Wyn.

Noddir y Gadair gan Undeb Amaethwyr Cymru, Canghennau Sir Gaernarfon a Sir Ddinbych. Rhoddir y wobr ariannol eleni er cof am y Prifardd Gwynfor ab Ifor gan y teulu.

Gwenan Jones, merch ifanc o ddalgylch yr Eisteddfod, sy’n gyfrifol am gynllunio a chreu’r Gadair eleni. Dywed, “Mae’n anrhydedd i gael cynllunio a chreu Cadair ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol, a hynny ym mro fy mebyd. Rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle ac wedi mwynhau’r profiad yn fawr.

“Afon Conwy a diwydiannau’r sir sydd wedi ysbrydoli’r cynllun. Yr afon yw asgwrn cefn y sir, yn llifo o’i tharddle yn Llyn Conwy ar fynydd y Migneint i’r aber yng Nghonwy, ac fe’i gwelir yn rhedeg i lawr y ddwy ffon fugail sy’n ffurfio ochrau’r Gadair. Mae siâp y ffon yn adlewyrchu cefndir amaethyddol y sir, a’r afon yn llifo’n frown er mwyn adlewyrchu mawndir yr ardal.” Ar ochr uchaf y ddwy goes flaen, gosodwyd gwely llechen o chwarel Cwm Penmachno, a hwnnw wedi’i fframio gan haenau o gopr wedi’u mewnosod. Mae’r ysgrifen a’r dyddiad hefyd wedi’u gosod mewn copr. “Ro’n i’n meddwl ei bod hi’n bwysig defnyddio gwahanol ddeunyddiau o ardal Sir Conwy, felly mae lle amlwg i lechen leol ac i gopr, gan fod chwarel gopr hanesyddol ym Mynydd y Gogarth, Llandudno. Mae’r copr hefyd i’w weld ar y Nod Cyfrin ar banel cefn y Gadair. “Yn ogystal, mae tref Llanrwst yn weledol bwysig, a phont y dref, gyda’i gwrthgyferbyniad o siapiau crwn ac onglog ysbrydolodd gynllun y ddwy goes flaen. Rydw i hefyd wedi creu cerflun o’r bont ar banel cefn y Gadair: mae ‘na orffeniad gwyn i hwn er mwyn adlewyrchu technegau adeiladu calch a sment yr hen oes. Yna, mae tair gwythïen liw yn rhedeg o waelod cefn y gadair, yn anelu at dri bwa’r bont ac yn ymestyn tua’r gorwel. Wrth ddilyn y gwythiennau lliw, sy’n cynrychioli’r Cymry, i fyny’r gadair, cawn ymdeimlad o chwilio am y gorwel, sef adlewyrchiad o destun ysgrifenedig y Gadair eleni.”

Defnyddiodd Gwenan dechneg gyfoes o resin clir er mwyn creu’r sedd, gyda dau damaid o dderw gydag ochrau amrwd yn adlewyrchiad o lan Afon Conwy. Rhwng y ddau ddarn o bren, mae hi wedi crynhoi cerrig Afon Conwy o’r tarddle at y glannau, gan gynrychioli’r sir gyfan. Mae pysgod hefyd wedi’u cloi yn y resin hwn, sy’n symboleiddio bywyd yr afon a’r sir.

Gwnaethpwyd y Gadair â llaw gan Gwenan yn ei gweithle ym Maerdy, Corwen.

Cynhelir seremoni’r Coroni ddydd Llun 5 Awst am 16.30, a seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener 9 Awst am 16.30.