Cyfres Hanes
Mae’r Gyfres Hanes yn ddilyniant sydd yn archwilio treftadaeth adeilad y Mostyn a’r ardal gyfagos, a defnyddir yr hanes hwn fel man cychwyn gwneuthuriad ein harddangosfeydd y gwelir yma heddiw. Mae’r holl arddangosfeydd yn y gyfres, a gychwynnodd yn 2013, yn cyflwyno arteffactau a delweddau gan eu gosod mewn deialog a chelf gan artistiaid cyfoes. Yr egwyddorion blaenllaw tu ôl y gyfres oedd yr awydd i greu cysylltiadau a’n cynulleidfa leol a datblygu ffyrdd newydd o greu a chyflwyno arddangosfeydd. Dilynwch y cysylltiadau isod er mwyn dod o hyd i fwy o wybodaeth am bob un o’n harddangosfeydd a digwyddiadau cysylltiedig.