Siop

Siop

Mae ein siop ar-lein bellach yn fyw, sy'n eich galluogi i brynu o ddetholiad o grefftau cyfoes gan artistiaid a gwneuthurwyr cymhwysol cyfoes lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, ochr yn ochr ag anrhegion hynod, cardiau cyfarch a chyflenwadau celf. Ar gael hefyd mae ein rhifynnau artistiaid, catalogau arddangosfeydd a detholiad o lyfrau a chyhoeddiadau sy'n archwilio meddwl beirniadol a diwylliant cyfoes, gan gynnwys 'The Ultimate Kiss' y catalog arddangos sy'n cyd-fynd ag arddangosfa gyfredol Jacqueline de Jong yn MOSTYN.

Mae ein horiel manwerthu bellach wedi symud i gefn ein siop, yn gartref i arddangosfa o grefft gyfoes gan rai o’n gwneuthurwyr dawnus.

Rydym yn falch o gyflwyno cyfres o rifynnau cyfyngedig gan artistiaid enwog yn rhyngwladol, yn cynnwys prints o'r harddangosfa gan Richard Wathen a Jonathan Monk.

Mae gan siop ddeniadol MOSTYN bob math o eitemau wedi'u gwneud â llaw gan wneuthurwyr ac artistiaid cyfoes lleol, cenedlaethol a rhyngwladol – rhai wedi sefydlu eu hunain ers tro ac eraill ond yn dechrau arni. O waith cerameg, tecstiliau, eitemau gwydr a gemwaith gwerth ei weld i eitemau defnyddiol ar gyfer y cartref, siop MOSTYN yw'r lle delfrydol i ddod o hyd i anrheg arbennig i rywun - neu i brynu rhywbeth bach i chi'ch hun!

Rydym ni'n flach o gefnogi gwneuthurwyr annibynnol yn ein siopau, ac mae'r incwm sy'n cael ei gynhyrchu hefyd yn cefnogi ein rhaglen arddangosfeydd ac ymgysylltu.

Dewch i mewn i osgoi prysurdeb y stryd fawr neu galwch heibio i weld beth sydd ar gael - cardiau cyfarch o bob math, anrhegion gwahanol a fforddiadwy, cylchgronau a llyfrau sy'n ymwneud â chelf, a chasgliad o deganau, pecynnau crefft, anrhegion a llyfrau ar gyfer plant creadigol.

Mae MOSTYN yn rhan o'r Cynllun Casglu, sy'n gadael i chi brynu darnau unigryw o gelf a chrefft gyfoes dros gyfnod o deuddeg mis yn ddi-log. Mae'r cynllun yn berthnasol os byddwch yn prynu darnau sy'n werth dros £50.

Mae Telerau ac Amodau'n berthnasol. Holwch yn y siop am fwy o fanylion.

 

 

 

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:


Siop MOSTYN

01492  868191
 
 
 

Downloads: