
Cefnogi MOSTYN
Mae MOSTYN yn elusen gofrestredig yn y DU. Mae gennym enw rhagorol am ein rhaglen gelf gyfoes o safon ryngwladol, sy’n agored i bawb. Rydym yn gweithio gydag artistiaid a phartneriaid i gyflwyno celf a diwylliant ysbrydoledig i gynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Fodd bynnag nawr, yn fwy nag erioed, rydym angen eich cefnogaeth.
Yn y 12 mis cyn Mawrth 2020, gwnaethom arddangos dros 60 o artistiaid cyfoes o ar draws y byd, cynnal dros 200 o weithdai a gweithgareddau yn y gymuned - gyda dros 4,000 o gyfranogwyr - a chefnogi dros 400 o wneuthurwyr annibynnol a busnesau bach yn ein lleoedd manwerthu.
Hoffwn ni barhau i wneud hyn, a llawer mwy, yn y dyfodol. Rydym eisiau parhau i fod yn rhad ac am ddim ac yn hygyrch i bawb - rhan hanfodol o ffabrig diwylliannol a chymdeithasol Cymru ar raddfa ryngwladol.
Rhowch rodd i MOSTYN a bydd y rhodd honno'n fuddsoddiad yn nyfodol MOSTYN ac ein cenhadaeth i gyflwyno celf gyfoes ryngwladol ragorol sy'n ymgysylltu'n feirniadol ac sy'n ysbrydoli ac yn annog pobl i ffurfio a rhannu safbwyntiau newydd ar y byd trwy ein rhaglenni.
A fyddech chi'n gallu cyfrannu at ddyfodol MOSTYN a gwneud cyfraniad heddiw? Mae croeso mawr i unrhyw rodd, ond byddem yn gwerthfawrogi'n arbennig pe gallech ymrwymo i roi swm yn rheolaidd.
Diolch. Bydd pob cyfraniad a wnewch yn cefnogi dyfodol MOSTYN.
Cyllidwyr a chefnogwyr MOSTYN
Cyngor Celfyddydau Cymru
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyngor Tref Llandudno
Mostyn Estates
The Borzello Trust
Hallett Independent
Sebastien Montabonel
Dr. Carol Bell
Mervyn Davies, Lord Davies of Abersoch
Brian Howes, OBE
Nia Roberts a John Nye
a rhoddion gan ymwelwyr