
Cyrraedd yma
Mae adeilad MOSTYN wedi'i leoli yn Llandudno, 12 Stryd Vaughan, LL30 1AB. Nid yw'n bell ar droed o'r orsaf drenau, y môr na chanol y dref. Cadwch olwg am y meindwr aur a'r teracota gwreiddiol ar du blaen yr adeilad.
Ar y Lôn
Dim ond tair milltir yw Llandudno oddi ar wibffordd yr A55 sy'n mynd ar hyd y glannau. Cymerwch y troad A470 yng Nghyffordd 19 a dilyn yr arwyddion ar gyfer Llandudno.
Parcio
Mae meysydd parcio arhosiad byr yn Asda ac ym Mharc Llandudno ar y ffordd i mewn i'r dref ac ar nifer o'r strydoedd o amgylch yr oriel. Does dim llawer o lefydd parcio ar y stryd ond mae maes parcio Talu ac Arddangos ar hyd y ffrynt yng ngolwg y môr. Mae maes parcio Talu ac Arddangos yng Ngorsaf Drenau Llandudno hefyd ar ben Stryd Vaughan, ychydig funudau i ffwrdd.
Ar Fws
I gael mwy o wybodaeth am fysiau lleol sy'n gwasanaethu Llandudno, ewch i dudalen Cludiant Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy neu www.traveline-cymru.info/
Mae gorsaf drenau Cyffordd Llandudno ar y brif lein rhwng Llundain a Chaergybi. Dim ond 3 milltir o Landudno yw Cyffordd Llandudno ar drên. Fe allech chi hefyd fynd ar fws neu gymryd tacsi o Gyffordd Llandudno. Mae'r arosfan bysiau a'r safle tacsi y tu allan i orsaf Cyffordd Llandudno. Mae MOSTYN 200 metr o Orsaf Drenau Llandudno - yn syth ymlaen ar hyd Stryd Vaughan.