PORTFFOLIO

PORTFFOLIO

Rhaglen Datblygu Artistiaid Ifanc PORTFFOLIO
Ydych chi'n 14-18 oed ac yn anelu at yrfa yn y celfyddydau gweledol?

***Mae'r galwad am geisiadau i PORTFFOLIO wedi'i estyn i ddydd Sul Hydref 10fed am 5yp***

Rydym yn edrych am 15 artist ifanc 14-18 oed i gymryd rhan yn ein rhaglen artistiaid ifanc newydd AM DDIM ym MOSTYN.

Wedi'i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, mae PORTFFOLIO yn gyfres o weithdai ymarferol, creadigol, teithiau o arddangosfeydd, sgyrsiau a thrafodaethau gydag artistiaid proffesiynol a'r tîm MOSTYN. Fel rhan o PORTFFOLIO, byddwch yn derbyn:
● Mentora gydag artistiaid proffesiynol.
● Teithiau sylweddol a mewnwelediad tu ôl i'r llenni o MOSTYN a'i arddangosfeydd.
● Bod yn rhan o grŵp o bobl greadigol ifanc tebyg a gefnogir gan dîm MOSTYN.
● Adeiladu portffolio o waith newydd; datblygu eich sgiliau a'ch hyder wrth wneud celf trwy amrywiaeth o weithdai creadigol.
● Deunyddiau ac offer i gymryd rhan.
● Mewnwelediad gwerthfawr i yrfaoedd mewn celf gyfoes a'r diwydiannau creadigol.

Nid oes angen i chi fod yn cymryd celf ar gyfer TGAU neu Lefel A, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl ifanc o bob cefndir, mae jyst angen i chi fod:
● 14-18 oed
● Bod ag angerdd am gelf a/neu ddylunio cyfoes
● Bod yn feddyliwr creadigol
● Dyheu am ddyfodol yn y diwydiannau creadigol
● Yn gallu mynychu pob un o'r sesiynau

Bydd Tymor 1 yn cael ei gynnal ar-lein yn ystod hanner tymor Hydref 2021, ac yna Tymor 2 dros hanner tymor Chwefror 2022.

TYMOR 1 (Hanner Tymor yr Hydref) - Ar-lein
23 Hydref 2021 - Cwrdd â'r artistiaid (Trafodaeth grŵp ar-lein)
25 Hydref 2021 - Taith arddangosfa o Jacqueline de Jong: The Ultimate Kiss ac Anathemata.
26 Hydref 2021 - TBC: Sgwrs Artist (YB) & Gweithdy TBC (YP)
28 Hydref 2021 - Sarah Ryder: Sgwrs Artist (YB) & Gweithdy Sarah Ryder (YP)
30 Hydref 2021 - Paul Kindersley: Sgwrs Artist (YB) & Gweithdy Paul Kindersley (YP)
11 Tachwedd 2021 - Sesiwn adolygiad portffolio

TYMOR 2 (Hanner Tymor y Gwanwyn) - Ar-lein / Byw
19 Chwefror 2022 - Cwrdd â'r artistiaid
21 Chwefror 2021 - Taith arddangosfa. (Arddangosfeydd i'w gyhoeddi'n fuan)
22 Chwefror 2021 - Artist i'w gadarnhau: Sgwrs Artist (YB) a Gweithdy Artist i'w gadarnhau (YP)
24 Chwefror 2021 - Artist i'w gadarnhau: Sgwrs Artist (YB) a Gweithdy Artist i'w gadarnhau (YP)
26 Chwefror 2021 - Artist i'w gadarnhau: Sgwrs Artist (YB) a Gweithdy Artist i'w gadarnhau (YP)
6 Mawrth 2021 - Sesiwn adolygiad portffolio

I wneud cais, cwblhewch y cais byr yn y ffurflen ddolen isod erbyn Sul Hydref 10fed am 5yp:

FFURFLEN GAIS

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch ar 01492 879201. Rydym ar gael ddydd Llun i ddydd Gwener o 10yb - 4yp.

Bydd yr artistiaid ifanc a ddewiswyd yn cael eu hysbysu ar 13eg Hydref. Mae lle ar y rhaglen wedi'u cyfyngu i 15 artist ifanc i gymryd rhan y tro hwn, ond peidiwch â phoeni, bydd gennym gyfleoedd eraill ar gael os na ddewisir eich cais.

AMDAN YR ARTISTIAID:

Sarah Ryder
Mae Sarah Ryder yn byw ac yn gweithio ym Mae Colwyn, Gogledd Cymru. Wedi'i llywio gan gysyniadau o amherffeithrwydd, am-barhauster a digymelldeb, mae ei phroses yn chwareus ac yn arbrofol, gan wneud gweithiau sy'n hofran rhwng paentio a cherflunwaith. Enillodd BA mewn Paentio Celf Gain yn University of Lincolnshire and Humberside, 2000, ac Peintio MFA, Slade School of Fine Art, Llundain, 2008.
Mae arddangosfeydd grŵp yn cynnwys Yellow Archangel Perceiving Anomalies, General Practice, Lincoln, 2021, Arddangosfa Agored Ty Pawb, Wrecsam, 2020, ArtHouses, Whitley Bay, 2019, Stop Frame: BROADCAST! Wirksworth Festival, 2014, <>Lick>>,;, PEER, Llundain, 2013. Artist mewn preswyliadau Freehaus Art School, Llandudno, 2016, Construction Gallery, Llundain, 2012. Ymhlith y cyhoeddiadau mae Younger Than Jesus: Artists Directory, Phaidon, 2009, New Contemporaries Catalogue 2007. Ar hyn o bryd yn gweithio tuag at sioe unigol yn Galeri, Caernarfon yn gynnar yn 2022.

Paul Kindersley
Graddiodd Paul Kindersley (g. 1985, Caergrawnt, y DU) o Cambridge Regional College, cyn astudio Celf Gain yn Chelsea College of Art & Design. Mae Kindersley yn artist sy'n gweithio ar draws perfformiad, ffilm, arlunio ac adrodd straeon. Mae ei waith yn chwarae gyda syniadau o hunaniaeth, harddwch a hunanfynegiant, mewn gweithiau sy'n tramwyo ac yn pylu'r bydoedd o ffasiwn, celf a'r cyfryngau. Ei waith diweddaraf yw ffilm nodwedd o'r enw The Burning Baby, stori dylwyth teg arswyd seicolegol swrrealaidd sy'n ymchwilio i'n perthynas â thirwedd, hunaniaeth, teulu, rhywioldeb a marwolaeth.
Mae arddangosfeydd diweddar yn cynnwys: Don’t Let The Bastards Grind You Down, Skypark, Glasgow International (2021); BUMs, DioHoria, Mykonos (2021); Abbieannian Novlangue, Galerie Sultana (2020); Ship of Fools, SKIP Gallery, Selfridges, Llundain (2019); The Cambridge Show, Kettle’s Yard, Caergrawnt (2019); Lignes de vies – une exposition de légendes, MACVAL, Paris (2019); Henry Darger Summer Camp, Arles (2019); Fake Fairy Fantasies, Belmacz, Llundain (2018); Orlando… at the present time, The Wolfson Gallery, Charleston, Lewes (2018) & DRAG, Hayward Gallery, Southbank Centre, Llundain (2018).