Caffi Oriel ym MOSTYN
Mae ein Caffi Oriel wedi cael ei adnewyddu’n ddiweddar ac mae’n lle unigryw i fwynhau amrywiaeth wych o fwyd a diod, gan gynnwys coffi hyfryd wedi’i rostio’n lleol. Os ydych chi awydd cawl, stiw, bagel neu salad, mae digon o ddewis ar ein bwydlen ffres ac ysgafn. Mae gennym ni gacenni bendigedig hefyd!
Mae ein caffi’n gwbl hygyrch ac mae digon o le i bramiau a chadeiriau olwyn. Mae’r golygfeydd o’r môr drwy’r ffenestri bae hyfryd a’r gwaith gan artistiaid lleol ar y waliau yn gwneud ein caffi’n lle delfrydol i gwrdd â ffrindiau neu i gynnal cyfarfod anffurfiol.
Mae'r caffi'n hwylus i bawb ei ddefnyddio. Mae digon o le i fygis a chadeiriau olwyn, ac rydym yn croesawu teuluoedd gyda phlant a babis. Rydym ni hefyd yn aelodau o'r 'Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron'.
Mae wi-fi ar gael am ddim a gallwch logi'r caffi ar gyfer achlysuron preifat a gweithgareddau busnes.
Llogi Lleoliad
Os hoffech chi holi am logi lleoliad ffoniwch: 01492 868191