Y Llyfrgell Ffeministaidd Symudol: Gair, Gweithred, Cysylltiad

Exhibition

Y Llyfrgell Ffeministaidd Symudol: Gair, Gweithred, Cysylltiad

Ar agor 3 Gorffennaf 2021
3 Gorffennaf - 19 Medi 2021

Mae Kristin Luke yn siarad am Y Llyfrgell Ffeministaidd Symudol: Gair, Gweithred, Cysylltiad. 
(Saesneg gydag is-deitlau cymraeg)

Trawsgrifiad

Mae MOSTYN yn falch iawn o gyflwyno Gair, Gweithred, Cysylltiad, arddangosfa o gyhoeddiadau a deunyddiau print sy'n archwilio’r berthynas rhwng gweithredu ffeministaidd hanesyddol a chyfoes yng Nghymru. Wedi’i drefnu gan yr artistiaid Minna Haukka a Kristin Luke, y mae eu gwaith cydweithredol yn deillio o'u prosiect parhaus, y Mobile Feminist Library sy’n gasgliad teithiol o ddeunydd print sy’n ymateb i’w hardal. Bydd yr arddangosfa hon ar ffurf ystafell ddarllen arbrofol. Bydd Haukka a Luke yn cydweithio gydag artistiaid, gweithredwyr, cydweithfeydd a chyhoeddwyr i ddatblygu casgliad sy'n berthnasol i Gymru, gan gynnwys cyhoeddiadau hanesyddol a chyfoes a deunyddiau print o ffynonellau archifol yng Nghymru yn ogystal â’r Feminist Library yn Llundain. 

Bydd Gair, Gweithred, Cysylltiad yn ystyried mudiadau gweithredu gwahanol a’r berthynas rhwng dosbarth, anabledd, ecoleg, rhywedd, iaith, niwro-ymyrraeth, hil a rhywioldeb, gan ystyried y rhain fel ystyriaethau cynhenid mewn unrhyw ffeministiaeth. Bydd y deunyddiau yn berthnasol i Gymru wrth gydnabod bod y symudiadau hyn yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau daearyddol. Bydd yr arddangosfa'n archwilio ffyrdd y mae deunyddiau cyhoeddi a phrint yn croestorri ac yn cryfhau symudiadau gweithredwyr, ac yn defnyddio dulliau gwrth-batriarchaidd o archifo a rhannu gwybodaeth. Bydd y gofod yn gweithredu nid yn unig fel llyfrgell, ond fel lle i ymgynnull a dysgu cymunedol.

Ymhlith y cyfranwyr mae: Beau Beakhouse a Sadia Pineda Hameed, Hanes Butetown Canolfan Gelf, Casey Duijndam a Robyn Dewhurst, Coed Gwaith Elwy, y Llyfrgell Ffeministaidd, Rebecca Jagoe, mwnwgl, Patriarchaeth.

Mae symudiadau a ffigurau hanesyddol yn cynnwys: Black Lives Matter, Emma Goldman, Gwersyll Heddwch Cyffredin Merched Greenham, Y Mudiad Commune, Monica Sjöö, cydweithfeydd cyhoeddi menywod a chwmnïau cydweithredol.

Am fwy o wybodaeth a delweddau i'r wasg cysylltwch â [email protected] 01492 879201

Beau W Beakhouse a Sadia Pineda Hameed (LUMIN) 
Mae Beau W Beakhouse yn artist, gwneuthurwr ffilmiau a churadur sydd â’i ganolfan yng Nghaerdydd. Wrth ymarfer fel artist, bydd yn dychwelyd yn aml at themâu wedi’u seilio ar iaith, tir, materion ôl-drefedigaethol, hanes amgen a breuddwydion drwy eu cydblethu a’u cydgyfeirio. Bydd yn ymgymryd â phreswyliaethau nesaf gyda Tangent Projects a Jerwood UNITe (g39) ac yn cynnal arddangosfa o’i waith ei hun gydag Arcade/Campfa.

Mae Sadia Pineda Hameed yn artist sydd wedi ymsefydlu yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio ym maes ffilm, gosodweithiau, testunau a pherfformio i ymdrin â thrawma torfol ac etifeddol; yn benodol, ein ffyrdd cudd o drafod hyn drwy freuddwydio, cydberthnasoedd telepathig a chyfrinachau fel strategaeth wrth-drefedigaethol sy’n gynhenid i ni. Mae wedi arddangos ei gwaith gyda The Bluecoat, MOSTYN, HOAX, Peak ac eraill. Maen nhw hefyd yn rhedeg LUMIN, gwasg argraffu fach, sioe radio a phrosiect curadurol. Yng ngolwg LUMIN, mae print yn ffordd i ddosbarthu deunydd radicalaidd, i drawsnewid gofod, ac i gymryd rhan mewn addysgeg dorfol a dulliau gweithio cydweithredol. Yn benodol, maent yn cyhoeddi ac yn hybu gwaith gwrth-drefedigaethol sy’n cyfuno barddoniaeth, theori ac elfennau gweledol.

Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown
 Mae’r Heritage and Cultural Exchange (HCE) yn sefydliad cymunedol sy’n ceisio cofnodi’r amrywiaeth ddiwylliannol yn ne Caerdydd sy’n deillio o orffennol diwydiannol a morwrol y ddinas, pan oedd yn ganolfan ryngwladol i’r fasnach glo, yn denu gweithwyr o bedwar ban byd i ardal y dociau. Mae’r casgliad o ffotograffau, archifau, a hanes llafar, a gasglwyd yn wreiddiol gan Ganolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown (CHCB), yn cael ei gatalogio, ei ddigideiddio, a’i drefnu fel ei fod ar gael yn fwy eang drwy waith gan dîm o wirfoddolwyr, gyda chymorth grantiau. Sefydlwyd CHCB ar ddiwedd y 1980au yn ardal y dociau yng Nghaerdydd. Aeth ati i gofnodi hanes y gymuned leol o dan arweiniad Glen Jordan, academydd o America a ddaeth i Gymru i fyw er mwyn cwblhau traethodau ymchwil ei fentor Sinclair Drake. Roedd Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown wedi parhau tan 2016 pan drosglwyddwyd ei hasedau i’r HCE.

Casey Duijndam a Robyn Dewhurst
Roedd Casey Duijndam a Robyn Dewhurst wedi cyfrannu at drefnu a chofnodi gwrthdystiadau Black Lives Matter ledled gogledd Cymru yn 2020.

Mae Casey Duijndam yn weithredydd sy’n hanner Ugandiad ac yn hanner Iseldirwraig ac mae’n 22 flwydd oed. Yn 2020, yn ystod y pandemig, roedd wedi creu hanes drwy ymuno â grŵp o fenywod cryf i drefnu tri o’r gwrthdystiadau Black Lives Matter yng ngogledd Cymru, profiad a oedd yn dorcalonnus a hefyd yn rymusol. Wedi blynyddoedd o fagu nerth, roedd gwrthdystiadau BLM yn drobwynt yn ei bywyd gwleidyddol, yn fodd iddi ddechrau siarad yn gyhoeddus a threfnu i bobl gydsefyll ac ymladd yn erbyn hiliaeth yn y DU a thrwy’r byd. Ers hynny, mae wedi rhoi nifer mawr o gyfweliadau am y ffordd y gallwn ein haddysgu ein hunain a’r bobl o’n cwmpas, mae wedi bod yn destun traethodau gan fyfyrwyr ysgol uwchradd, ac wedi estyn gwahoddiad i Heddlu Gogledd Cymru i gymryd rhan mewn deialog am rôl yr heddlu mewn gwrthdystiadau yn y dyfodol.

Mae Robyn Dewhurst yn artist o Brydain sydd â’i chanolfan yng ngogledd Cymru ar hyn o bryd. Mae’n gweithio drwy ffotograffiaeth ddigidol a churadu arddangosfeydd i dynnu sylw at is-ddiwylliannau a grwpiau diwylliannol-gymdeithasol llai amlwg. Mae ei delweddau cryf a chrafog yn rhoi sylw i bobl, arferion a digwyddiadau sydd y tu allan i’r brif ffrwd. Cydweithiodd yn y gorffennol â chymunedau LGBTQ+ lleol i guradu’r arddangosfa ‘QUEER IDENTITY’ yn Leeds Corn Exchange - digwyddiad a oedd yn portreadu profiadau personol pobl ifanc LGBTQ+ drwy ddarluniau, ffilm, ffotograffiaeth, celfyddyd gain a pherfformio. Mae hefyd yn tynnu lluniau o berfformwyr Drag a Bwrlésg DIY, a hynny wedi ei harwain at brosiectau mwy drwy gydweithio, er enghraifft, ag Athrofa Henry Moore ar ‘Age of THE : Athenian’. Enillodd radd BA (Anrh) mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Gelfyddydau Leeds yn 2020.

Mudiad y Comiwnau
Roedd Cymru, a’r Canolbarth yn enwedig, yn gyrchfan o bwys rhwng y Chwe Degau a’r Wyth Degau i bobl a oedd wedi dewis gadael canolfannau trefol a sefydlu cymunedau bwriadus yn rhan o Fudiad y Comiwnau. Roedd y comiwnau hyn yn meithrin cydgysylltu rhwng gwahanol fathau o weithredaeth, yn cynnwys y mudiad rhyddid menywod, amgylcheddaeth, anarchiaeth, gwrth-hiliaeth a diarfogi niwclear. Gellir olrhain hanes y mudiad drwy wahanol fathau o gyhoeddiadau ac effemera printiedig, yn cwmpasu hysbysebion yn Spare Rib am grwpiau cydweithredol menywod, taflenni wedi’u hargraffu â llaw ar beiriannau dyblygu gestetner i’w dosbarthu rhwng comiwnau a’u defnyddio fel tanwydd wedyn mewn stofiau llosgi coed, a llawlyfrau am fyw’n hunangynhaliol fel The Whole Earth Catalog, llyfr a argraffwyd yng Nghaliffornia a’i ddefnyddio’n helaeth gan gomiwnau yng Nghymru.

Elwy Working Woods
Mae Elwy Working Woods yn gwmni cydweithredol yng Ngogledd Cymru sydd wedi ymrwymo i gyfuno tai fforddiadwy gyda swyddi sy'n seiliedig ar reolaeth o'r coetir o amgylch dyffryn hardd Elwy. grŵp o weithwyr proffesiynol sy'n gwneud ystod o bethau coediog felino llif, fframio pren traddodiadol, gwneud basgedi, llosgi siarcol a choed tân, plannu coed a choedwigaeth. Eu nod yn y pen draw yw adeiladu tai ffrâm bren hardd o'u coed eu hunain, yn cael eu tanwydd yn gyfan gwbl o'u boncyffion eu hunain.

Emma Goldman
Roedd Emma Goldman (1869-1940) yn weithredydd ffeministaidd anarchaidd. Cafodd ei hallgludo o UDA i’r Undeb Sofietaidd ym 1919. Yn y 1920au, cafodd loches yn Rhydaman, cymuned lofaol yn y De. Oddi yno byddai’n mynd i ddarlithio ar sosialaeth, comiwnyddiaeth, a ffeministiaeth ledled cymoedd y De. Roedd ganddi gysylltiadau hefyd â’r ‘White House’, canolfan yn Rhydaman ar gyfer cydastudio gwleidyddol radicalaidd a man cyfarfod i sosialwyr ifanc. Roedd ei hysgrifennu a’i chyhoeddiadau’n ymwneud yn bennaf ag athroniaeth anarchaidd a hawliau menywod, yn enwedig yr hawl i bleidleisio, cariad rhydd, atal cenhedlu, cyfunrhywiaeth, a phriodas. Sefydlodd fisolyn radicalaidd o’r enw Mother Earth ac mae ei rhan yn hanes ffeministiaeth wedi’i chrisialu yn nheitl y casgliad o’i gwaith, Anarchy and the Sex Question.

Feminist Library
Mae’r Feminist Library, a agorwyd ym 1975, yn archif fawr o lenyddiaeth ffeministaidd, yn enwedig deunyddiau’r Mudiad Rhyddid Menywod rhwng diwedd y 1960au a’r 1990au. Mae’n cefnogi prosiectau cymunedol, gweithredol ac ymchwil yn y maes hwn. Yn ogystal â hyn, mae’r llyfrgell yn fan cyfarfod cymunedol annibynnol i ffeministiaid. Mae’r llyfrgell yn gynhwysol o ran pobl trans, mae’n croesawu ymwelwyr ag unrhyw rywedd, nid yw’n gofyn am gofrestru neu ymaelodi, ac mae’n cynnig gofod ansectyddol, cydblethedig i drafod ffeministiaeth.

Comin Greenham
Roedd Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham wedi para o 1981 i 2000. Fe’i sefydlwyd yn sgil penderfyniad gan grŵp ymgyrchu yng Nghymru, Women for Life on Earth, i orymdeithio o Gaerdydd i Orsaf Awyrlu Comin Greenham a chodi gwersyll i wrthdystio yn erbyn y penderfyniad gan lywodraeth Prydain i storio arfau niwclear yng ngorsaf yr awyrlu. Arhosodd menywod yn y gwersyll am bron 20 mlynedd, yn codi gwarchaeoedd, yn gweithredu, ac yn trefnu ymyriadau i wrthdystio yn erbyn y bygythiad i’w bywydau oddi wrth arfau niwclear.

Minna Haukka
Mae Minna Haukka yn artist o’r Ffindir sydd wedi ymsefydlu yn Llundain er 1999. Mae’n gweithio drwy gyfryngau cymysg, gosodweithiau, cerfluniau, tecstiliau, fideo a darlunio. Mae’n ymgysylltu â chymdeithas drwy ei gwaith ac mae ganddi ddiddordeb mewn dadadeiladu ac ailbwrpasu pethau pob dydd. Roedd yn artist preswyl yn y Feminist Library yn Llundain rhwng 2018 a 2020, ac mae wedi bod yn wirfoddolwr yno er 2015. Ar hyn o bryd, mae’n brif gydgysylltydd yng Ngrŵp Curadurol y llyfrgell. Er 2018, mae wedi cydweithio â Kristin Luke ar brosiect y Mobile Feminist Library – fan wen wedi’i throi’n llyfrgell a oedd yn rhan o’r gyfres arddangosfeydd Still I Rise yn y De La Warr Pavilion, Bexhill on Sea ac yn Arnolfini, Bryste yn 2019. Mae Minna Haukka wedi arddangos ei gwaith yng ngwledydd Prydain ac mewn gwledydd tramor er 1993 ac mae hefyd wedi curadu prosiectau ar y cyd yn Llundain, yn y Showroom, Space Station 65 a’r Feminist Library, ac yn Oriel HilbertRaum yn ninas Berlin.

Rebecca Jagoe
Mae Rebecca Jagoe yn artist o Iwerddon sydd wedi ymsefydlu yng Nghymru. Mae gwaith yr artist yn cwmpasu perfformio, cerfluniau, tecstiliau, ysgrifennu, a darlunio. Mae’r gwaith hwn yn gofnod materol o’r ffordd y mae profiadau Rebecca Jagoe o salwch a rhywedd wedi’u ffurfio gan naratifau diwylliannol Gorllewinol penodol. Mae gwaith yr artist yn edrych yn benodol ar y modd y mae’r cysyniad o’r Benywaidd, o fewn y diwylliant Ewropeaidd, yn cael ei greu ar y man cyfarfod rhwng rhethreg feddygol ac estheteg ffasiwn prif ffrwd. Yn 2020, dangoswyd gwaith Rebecca Jagoe ar-lein gan Wysing (Caergrawnt, y DU) a La Casa Encendida (Madrid, Sbaen), a pherfformiodd yn CCA Goldsmiths (Llundain) cyn y cyfnod clo. Mae wedi arddangos gwaith yn ddiweddar yn Jupiter Woods (Llundain, 2019), South London Gallery (2019), a Whitechapel Gallery (Llundain, 2018). Cyhoeddwyd gwaith llenyddol yr artist yn y cylchgronau Hotel (i ddod), Happy Hypocrite (rhifyn 11, The Silver Bandage), a Frieze, ymysg eraill. Yn 2021 bydd yn cynhyrchu perfformiad i’w ddarlledu ar-lein gyda Site Gallery.

Kristin Luke
Ganwyd yr artist Kristin Luke ym 1984 yn Los Angeles, Califfornia, UDA ac mae wedi ymsefydlu ym Mhenmachno yn Eryri. Mae ei gwaith yn cynnwys ffilm, cerfluniau a digwyddiadau byw. Yn 2019–2020, roedd Kristin Luke yn artist preswyl yn The Wall Is _____, prosiect cydweithredol mewn stad dai yng ngogledd Cymru sy’n ymwneud ag adfywio a hunanganfyddiad cymunedol a gafodd gymorth gan Sefydliad Paul Hamlyn. Mae wedi cydweithio â Minna Haukka er 2018 ar y Llyfrgell Ffeministaidd Deithiol. Er 2017–18 bu’n gyfrannwr i’r cyfnodolyn addysg radicalaidd Schooling & Culture, a gynhyrchir ar y cyd â MayDay Rooms a The Showroom Gallery, ac yn aelod o’i grŵp golygyddol. Yn 2018, cyd-drefnodd gyfres o weithdai ac adeiladu gosodwaith i D.O.P.E., gofod addysg amgen sy’n cael ei arwain gan bobl ifanc, sy’n derbyn cymorth gan y Showroom Gallery a chronfa Create Cyngor Westminster. Yn 2018–19 roedd yn Ymarferydd Creadigol i’r rhaglen Ysgolion Creadigol Arweiniol yng Nghymru. Yn 2015–16 roedd yn fyfyriwr cyswllt yn Open School East. Mae’n aelod o’r grŵp artistiaid MoreUtopia! Mae ei gwaith a’i phrosiectau wedi’u harddangos mewn orielau, yn cynnwys South London Gallery; Arnolfini, Bryste; Somerset House; Enclave; AND/OR; Bas Fischer Invitational, Miami; Jerwood Arts; a The Agency.

mwnwgl
Mae mwnwgl yn gasgleb cyhoeddi a churadu sy'n cynhyrchu sgwennu/celf newydd mewn ieithoedd Cymrae/ig. Cafodd ei rifyn print cyntaf, Anghyfiaith, ei gomisiynu gan oriel g39 a'i ryddhau yng ngwanwyn 2021 gyda gwaith newydd gan Umulkhayr Mohamed, Catrin Menai, Bob Gelsthorpe, Radha Patel, Joanna Wright a Sarah Roberts ar themau o (gam)gyfieithu, tafodau estron a chyfathrebu rhwng a thu hwnt i iaith, ynghyd â gwaith gan Esyllt Lewis, Elin Meredydd a Dylan Huw, sy'n llywio'r prosiect. //

mwnwgl is a publishing and curatorial collective committed to producing and circulating new art/writing in and around Welsh languages. Its first print issue, Anghyfiaith, was commissioned by g39 and released in Spring 2021, featuring new work by Umulkhayr Mohamed, Catrin Menai, Bob Gelsthorpe, Radha Patel, Joanna Wright and Sarah Roberts on themes of (mis)translation, alien tongues and language's in-betweens, as well as by founding members Esyllt Lewis, Elin Meredydd and Dylan Huw.

Patriarchaeth
Mae Patriarchaeth yn gydweithfa ffeministaidd annibynnol fach sy’n cael ei rhedeg gan fyfyrwyr yng Nghymru sy’n artistiaid, yn weithredwyr ac yn llenorion. Nod eu gwaith yw sicrhau bod byd llên a chyhoeddi Cymraeg yn ddi-ben-draw, a bod lle ar gael i leisiau newydd a sgyrsiau heriol. Cyhoeddiad radicalaidd a chydweithredol yw hwn, ar ffurf cyfres o gylchgronau dwyieithog, pob un â’i thema ei hun. Mae’r prosiect yn rhoi pwys ar ymarfer creadigol ar y cyd fel ffordd i ailedrych ar eu perthynas fel pobl ifanc â phrint, cyhoeddi a’r celfyddydau. Mae gan Patriarchaeth ddiddordeb mewn edrych ar themâu rhywedd, rhywioldeb ac iaith o safbwynt ffeministaidd. Nod y grŵp yw trafod rôl y Gymraeg drwy ddisgwrs gwleidyddol ystyrlon a chyfoes. Mae eu gwaith ffeministaidd yn cefnogi ac yn ymrwymo i ryngblethedd, cynwysoldeb pobl trans, diddymiaeth a gwrth-hiliaeth drwy roi blaenoriaeth i gydofal a chydsefyll. Mae ethos Patriarchaeth wedi’i seilio ar addysgeg ryddhau ac yn cynnwys cymuned, cyfiawnder a llawenydd.

Monica Sjöö
Roedd Monica Sjöö yn artist blaengar, yn eco-ffeminydd, yn llenor, yn weithredydd ar lawr gwlad ac yn un o arloeswyr mudiad y Dduwies. Roedd yn ymchwilydd diflino i ddiwylliannau matriarchaidd yr hen fyd, yn frwd dros adfer yr hyn a welai’n hanes cuddiedig menywod. Yn ogystal â chreu darluniau, paentiadau a phrintiau, roedd Sjöö wedi ysgrifennu a darlunio tri llyfr, wedi cyfrannu i nifer mawr o gylchgronau a chyfnodolion a hefyd wedi llythyru a rhwydweithio’n gyson. Mae lluniau o’i gwaith wedi’u cynnwys ar gloriau sawl llyfr, ar bosteri ac ar gloriau tapiau clywedol a hefyd mewn dyddiaduron, cylchgronau, cyfnodolion ac erthyglau ym mhob rhan o’r byd.

Supported by: 

Gyda chefnogaeth y Gronfa Loteri Genedlaethol, Cyngor Celfyddydau Cymru a’r Gronfa Sefydlogrwydd Artistiaid, a Sefydliad Kone.

Downloads: