Clwb Celf Dydd Sul: Newid Eich Persbectif

  • Gweithgaredd i blant

Clwb Celf Dydd Sul: Newid Eich Persbectif

5 Mehefin 2022, 2:00pm to 3:30pm

Ymunwch â ni am ein clwb celf reolaidd lle gall ein hymwelwyr ieuengaf archwilio eu creadigrwydd a chael eu hysbrydoli gan ein harddangosfeydd.

Yn y sesiwn hon bydd ein tîm dysgu yn arwain eich artistiaid ifanc i archwilio gwahanol ffyrdd o weld, ac arbrofi gyda chanfyddiad a thechnegau lluniadu gwahanol! Bydd eich artistiaid bach yn creu amrywiaeth o weithiau celf gyffrous wedi’u hysbrydoli gan arddangosfa Angharad Williams sydd yn ein prif orielau.

Wedi'i anelu tuag at gyfranogwyr rhwng yr oedran o 6-11.

Gall rhieni, gwarcheidwaid, neu ofalwyr fynychu'r gweithdy os oes angen heb daliad ychwanegol. Mae’n rhaid i blant o dan 8 oed fod yng nghwmni oedolyn a'i oruchwylio.

Gwybodaeth Diogelwch COVID-19 ar gyfer Cyfranogwyr Gweithdai, Rhieni, Gwarcheidwaid a Gofalwyr, Sefydliadau Addysgol a Grwpiau Addysgol ar gyfer Ymweliadau ag Oriel MOSTYN.

Dyluniwyd y protocolau a’r gweithdrefnau arfer da i sicrhau diogelwch a lles unrhyw grwpiau sy’n ymweld:

  • Os ydych chi'n dangos unrhyw symptomau o COVID-19 peidiwch â mynychu'r gweithdy. Cewch eich ad-dalu os na allwch ddod oherwydd symptomau.
  • Fydd deunyddiau glan yn cael eu defnyddio ym mhob gweithdy i atal traws-halogiad.
  • Cyn ac ar ôl pob gweithdy bydd y Stiwdio Dysgu yn cael ei glanhau'n drylwyr.
  • Disgwylir i bob ymwelydd defnyddio glanweithydd dwylo wrth gyrraedd a gadael, gan osgoi ysgwyd llaw a chyswllt corfforol, a.y.b.
  • Nid yw orchuddion hwyneb yn ofynnol i ymwelwyr, ond rydym yn cynghori bod pobl dal i’w wisgo yn enwedig o fewn pellter o 2-fetr oddi wrth ei gilydd.

Cysylltwch â ni [email protected] os oes angen mwy o wybodaeth ar ein protocolau COVID-19 neu os hoffech ofyn am gymorth mynediad ychwanegol.

 

Booking: 

£5 y plentyn

Cyghorir archebu lle Eventbrite