Cwestiynu persbectifau anodd mewn gofodau cyffredin

  • Sgwrs

Cwestiynu persbectifau anodd mewn gofodau cyffredin

Darlith gan Jordan Glendenning
1 Mehefin 2019, 2:30pm

Mewn byd ar-lein sy’n ehangu, rydym yn defnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol bob dydd ar gyfer pethau syml fel cadw mewn cysylltiad, adolygu busnesau lleol, neu hyd yn oed werthu eitemau nad ydym eu heisiau. Ond yn y gofodau ar-lein cyffredin hyn, yn aml nid ydym yn disgwyl straeon ffuglennol. Bydd y sgwrs hon yn edrych ar ffuglen a gyflwynir drwy ofodau cyffredin, sut y caiff persbectifau anodd eu defnyddio a sut y mae hyn yn effeithio ar gynulleidfa. Sut mae modd ymgysylltu’n ystyrlon â chelf mewn gofodau lle nad ydym yn disgwyl dod wyneb yn wyneb â hi.

Cyfres o ddarlithoedd ‘Lle mae celf a geiriau’n cwrdd’

Beth yw llenyddiaeth? Beth yw celf? Beth yw prydferthwch? Mae’r berthynas rhwng arlunydd, awdur, a chynulleidfa yn llawn disgwyliadau anesmwyth o ran canfod ‘ystyr’. Fodd bynnag, mae llenyddiaeth a chelf yn ffynnu mewn mannau lle y mae celf a geiriau’n cwrdd, a lle bydd ystyr yn rhwygo ar agor i ddatgelu bydoedd gwahanol a dulliau gweithredu newydd. O fwrw golwg hanesyddol ar drais mewn llenyddiaeth, i'r mannau lle y mae elfennau naratif yn troi’n dapestrïau digidol, mae geiriau’n cyfnewid eu hystyr i ddod yn synau, a phersbectif yn ail-lunio dulliau creadigol i ddod yn gelfyddyd newydd.

Mae’r gyfres hon o ddarlithoedd yn archwilio celf a llenyddiaeth fel mannau rhyngweithiol ar gyfer gofyn cwestiynau yn hytrach na gorfodi ystyr. 

1 Mehefin, 2:30yp   

Cwestiynu persbectifau anodd mewn gofodau cyffredin Darlith gan Jordan Glendenning

8 Mehefin, 2:30yp   

Trin celf gyda Dada - Darlith gan Dr Sarah Pogoda

15 Mehefin, 2:30yp

Gwneud i gelf ysgrifennu: gofodau mewn orielau fel ysbrydoliaeth i ysgrifennu - Darlith gan Dr DeAnn Bell

Booking: 

AM DDIM 

Argymhellir archebu lle drwy ffonio 01492 868191 neu ymweld â'r oriel