Cyfres Podlediad McKenzie Wark: The Artist-Publisher

  • Digwyddiad Digidol

Cyfres Podlediad McKenzie Wark: The Artist-Publisher

Mewn sgwrs gyda GB Jones
3 Chwefror 2022, 5:00pm to 18 Chwefror 2022, 5:00pm

Gall cyhoeddi hefyd fod yn fath o arfer celf. Yn y gyfres podlediadau The Artist-Publisher, mae McKenzie Wark yn siarad ag artistiaid sydd hefyd yn gyhoeddwyr a chyhoeddwyr y mae eu gwaith yn fath o arfer celf. Cylchgronau a llyfrau, wedi'u gwneud yn rhad neu yn eu miloedd, neu gyfnodolion ar y we sydd ar gael am ddim - mae'r rhain yn ymddangos yn wrthgyferbyniol i'r gwaith celf unigryw. Ac eto mae creu ystyr o amgylch arferion celf yn gofyn am y math arall hwn o arfer o gyhoeddi gweithiau ysgrifenedig. 

Ymhlith y cyfranwyr mae Julieta Aranda, Jacqueline de Jong, Deluge Books, Hedi El Kholti a GB Jones. Mae'r gyfres yn cynnwys cyflwyniad gyda Juliette Desorgues.

McKenzie Wark yw'r awdur, ymhlith pethau eraill, o Philosophy for Spiders: on the low theory of Kathy Acker (Duke University Press 2021) a The Beach Beneath the Street: the Everyday Life and Glorious Times of the Situationist International (Verso 2011). Mae hi'n athro diwylliant a'r cyfryngau yn The New School yn Ninas Efrog Newydd.

Mae G.B. Jones (g. 1965 Bowmanville, Ontario, Canada, yn byw ac yn gweithio yn Toronto, Canada) yn artist, gwneuthurwr ffilmiau, cerddor, a chyhoeddwr cylchgronau. Cafodd darluniau Jones enwogrwydd am y tro cyntaf pan gafodd eu cyhoeddi yn y cylchgrawn cwiar pync J.D.s, wedi'i leoli yn Toronto, y bu’n ei rhedeg gyda Bruce LaBruce. Mae ei chyfres o luniau toreithiog Tom Girls yn cael ei chydnabod yn eang, ac yn ail-ddychmygu darluniau Tom of Finland trwy amnewid yr holl ffigurau gor-wrywaidd â merched, gan wyrdroi’r bwriad i gyfraniad i gelfyddyd ffeministaidd trydedd don. Mae Jones wedi arddangos ei chelf yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ers y 1990au cynnar, mewn gofodau fel Columbus Museum of Art, Columbus; Participant Inc., Efrog Newydd; Mercer Union, Toronto; The Power Plant, Toronto; Kunsthalle Exnergasse, Fienna; White Columns, Efrog Newydd; AKA Artist Run Space, Winnipeg; Muncher Kunstverein, Munich; and Schwules Museum, Berlin. Cafodd ei chynnwys yn arddangosfa 2012 This Will Have Been: Art, Love, and Politics yn y 1990s, a guradwyd gan Helen Molesworth ar gyfer yr MCA Chicago ac wedi hynny teithiodd i'r Walker Art Center, Minneapolis, a'r ICA Philadelphia. Mae hi hefyd wedi arddangos ei gwaith mewn orielau cenedlaethol a rhyngwladol gan gynnwys David Zwirner, Efrog Newydd; Cooper Cole, Toronto; Paul Petro Contemporary Art, Toronto; Feature, Efrog Newydd; Galerie Clark, Montreal; ac Or Gallery, Vancouver.

Dyluniad graffig: Kévin Blinderman
Cymorth Technegol: Sableradio
Cefnogir gan Borzello a Garfield Weston Foundation

Link to Soundcloud