
- Sgwrs
Dweud stori yn yr oes ddigidol
Yn yr oes ddigidol, mae popeth o ffilm i destun i lun wedi’u cywasgu i’r un peth: yr 1 a’r 0 yn y cod deuaidd. Mae hyn yn galluogi adroddwyr straeon unigol i gyfuno stori â chelf, symudiadau, sain a rhyngweithio, gan greu potensial enfawr ac amrywiaeth ar gyfer adrodd straeon amlgyfrwng. Bydd y sgwrs hon yn cyflwyno sampl o adrodd straeon amlgyfrwng, aml-fodd, gan ddangos sut, yn yr oes ddigidol, y mae’r cyfryngau celfyddydol a naratif yn dod at ei gilydd greu un tirlun sy’n amrywio’n ddiderfyn.
Cyfres o ddarlithoedd ‘Lle mae celf a geiriau’n cwrdd’
Beth yw llenyddiaeth? Beth yw celf? Beth yw prydferthwch? Mae’r berthynas rhwng arlunydd, awdur, a chynulleidfa yn llawn disgwyliadau anesmwyth o ran canfod ‘ystyr’. Fodd bynnag, mae llenyddiaeth a chelf yn ffynnu mewn mannau lle y mae celf a geiriau’n cwrdd, a lle bydd ystyr yn rhwygo ar agor i ddatgelu bydoedd gwahanol a dulliau gweithredu newydd. O fwrw golwg hanesyddol ar drais mewn llenyddiaeth, i'r mannau lle y mae elfennau naratif yn troi’n dapestrïau digidol, mae geiriau’n cyfnewid eu hystyr i ddod yn synau, a phersbectif yn ail-lunio dulliau creadigol i ddod yn gelfyddyd newydd.
Mae’r gyfres hon o ddarlithoedd yn archwilio celf a llenyddiaeth fel mannau rhyngweithiol ar gyfer gofyn cwestiynau yn hytrach na gorfodi ystyr.
25 Mai, 2:30yp
Dweud stori yn yr oes ddigidol - Darlith gan Dr Lyle Skains
1 Mehefin, 2:30yp
Cwestiynu persbectifau anodd mewn gofodau cyffredin - Darlith gan Jordan Glendenning
8 Mehefin, 2:30yp
Trin celf gyda Dada - Darlith gan Dr Sarah Pogoda
15 Mehefin, 2:30yp
Gwneud i gelf ysgrifennu: gofodau mewn orielau fel ysbrydoliaeth i ysgrifennu - Darlith gan Dr DeAnn Bell
Booking:
AM DDIM
Argymhellir archebu lle drwy ffonio 01492 868191 neu ymweld â'r oriel