
- Sgwrs
Ecoleg estroniaid morol a’r rheolaeth arnynt
Mae ymlediad rhywogaethau estron goresgynnol, sy’n cael eu galw’n estroniaid yn aml, yn broblem fyd-eang, gydag amrywiaeth o effeithiau. Yn y môr, mae diffyg rhwystrau ffisegol i atal ymlediad rhywogaethau, a hefyd masnach fyd-eang sy’n ehangu’n gyflym iawn, yn golygu bod estroniaid morol yn eang a chyffredin ar hyd arfordir Cymru. Bydd Stuart Jenkins yn trafod pam mae rhai rhywogaethau’n oresgynwyr llwyddiannus, beth sy’n gwneud rhai cynefinoedd yn fwy tebygol o ddenu goresgynwyr nag eraill a sut mae ymchwil yn helpu i roi sylw i’r problemau
Nos Iau 10 Hydref, 7.30pm (derbyniad diodydd am 7pm)
AM DDIM
Cynghorir archebu ar 01492 868191 neu drwy alw i'r oriel.
Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr
Noddir gan Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd
Bydd Cyfres o Ddarlithoedd Blwyddyn y Môr yn edrych ar amrywiaeth y bywyd yn ein moroedd ni - o facteria i forfilod.
Cyflwynir y darlithoedd ar nosweithiau Iau gan chwe gwyddonydd morol blaenllaw sydd i gyd yn arbenigwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol yn eu meysydd unigol.
27 Medi David Thomas: Bywyd tu mewn i bac rhew yn yr Antarctig a’r Arctig
11 Hydref Stuart Jenkins: Ecoleg estroniaid morol a’r rheolaeth arnynt
25 Hydref Lewis LeVay: Ffermio cynaliadwy yn y môr - o fyd-eang i leol
8 Tachwedd Mattias Green: Llanwau, peli eira ac esblygiad
22 Tachwedd Line Cordes: Byd acwstig mamaliaid y môr
6 Rhagfyr Gareth Williams: Archwilio a dysgu oddi wrth y riffiau cwrel mwyaf anghysbell ar y Ddaear
Gwybodaeth am Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd (NRN-LCEE)
Mae’r NRN-LCEE yn fenter ymchwil fawr, sy’n werth £7M ledled Cymru. Mae’n cefnogi gwaith ymchwil rhagorol ar y rhyngweithio rhwng tir, dŵr a’r broses o ddarparu bwyd a chynhyrchu ynni. Llywodraeth Cymru a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru sy’n ariannu'r Rhwydwaith drwy Raglen Sêr Cymru ar gyfer denu talent wyddonol i Gymru.
Mae’r Rhwydwaith yn ariannu Cymrodoriaethau ac ysgoloriaethau ymchwil PhD sy’n rhan o ‘Glystyrau Ymchwil’ rhyngddisgyblaethol a chydweithredol Prifysgolion Cymru a phartneriaid eraill, yn ogystal â Chymrodoriaethau ar gyfer ymchwilwyr sy’n dychwelyd i’r byd addysg ar ôl seibiant gyrfa. Mae’r unigolion dawnus hyn yn mynd i’r afael â heriau ymchwil gwahanol sy’n berthnasol i’r gymdeithas ac i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Yn ogystal â hyn, mae’r Rhwydwaith yn darparu arian datblygu ymchwil ac yn trefnu darlithoedd, gweithdai a digwyddiadau cyhoeddus eraill gyda’r nod o ddenu arbenigwyr ym meysydd ymchwil LCEE ac sy’n ymwneud â heriau presennol i Gymru.
Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith ar gael ar y wefan:www.nrn-lcee.ac.uk
Booking:
AM DDIM
Cynghorir archebu ar 01492 868191 neu drwy alw i'r oriel.