Gwyn Williams - HENO

Gwyn Williams, HENO, 2017
Gwyn Williams, HENO, 2017
  • Gŵyl

Gwyn Williams - HENO

15 Medi 2017, 7:30pm to 17 Medi 2017, 3:00am

Prosiect gyda’r nos yw ‘HENO’ a fydd yn cael ei gynnal ar ffenestri ffasâd adeilad MOSTYN yn ystod LLAWN, gan ddod â blaen yr adeilad yn fyw pan fydd yn tywyllu.

Mae ’HENO’ yn cyflwyno gwaith newydd gan yr artist Gwyn Williams, sy’n ymateb i gysyniad a chyd-destun y prosiect.
Gan ddefnyddio meddalwedd recordio sgrîn, mae gwaith Williams yn ymestyn y defnydd o hiwmor i ddadansoddi’n adeiladol berthynas cymdeithas â’r byd gan ddefnyddio ffraethineb fel lens sy’n caniatáu inni edrych ar y cymdeithasol a’r gwleidyddol gyda’i gilydd mewn modd sydd yn amharchus ond eto’n deimladwy ar yr un pryd.

Am Gwyn Williams
Ganed Williams yn 1980, ac mae’n byw ac yn gweithio yng Nghlwt-y-bont. Mae ei waith wedi cael ei arddangos mewn nifer o arddangosfeydd, gan gynnwys rhai yn G39, Caerdydd; Oriel Myrddin, Caerfyrddin; Phillips de pury, Llundain; Eisteddfod Genedlaethol, Rhuthun; Hackney Picturehouse, Llundain; a Chanolfan Chapter, Caerdydd.

Sgwrs rhwng Adam Carr a Gwyn Williams

cyflwynwyd fel rhan o

www.llawn.org