
- Gweithdy
Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed
11.00yb - 5.00yh
Marciau yn unig yw cynnwys darlunio, felly mae’r ffordd yr ydym yn gwneud marc yn wirioneddol bwysig. Gan ganolbwyntio ar greu marciau fe ddefnyddir nifer eang o gyfryngau, papurau a gweadau, gan ddefnyddio’r llyfrau braslunio i gasglu ac arbrofi â syniadau ermwyn darganfod sut mae gwahanol gyfryngau yn cyd weithio a’u gilydd. Bydd Gilly yn dod a’i llyfrau braslunio ei hun ag yn dangos esiamplau o sut mae artistiaid eraill yn eu defnyddio.
Mae’r holl ddeunyddiau ar gael a wedi eu cynnwys yn y bris.
About Gilly Thomas
Yn wreiddiol astudiodd Gilly gerfluniaeth ond yn awr mae yn creu gwaith sydd yn uno darlunio a phaentio, gan boblogi ei gwaith â chymeriadau wedi eu gosod mewn gwagle a llefydd swreal. Mae’n darlunio’n gyson ermwyn cynhyrchu syniadau a phrofiadau newydd gan ddefnyddio acrylics, olew ag aml gyfrwng.
Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
Booking:
£12.50 y gweithdy.
Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191.