Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed

delwedd Rob Spaull
Rob Spaull
  • Gweithdy

Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed

Cymysgu Sain Ddigidol gyda Rob Spaull
21 Ebrill 2018, 11:00am

11am - 5pm

Creuwch gerddoriaeth a sainluniau gyda dyfeisiau digidiol
 
Bydd gweithdy Rob Spaull yn edrych ar Sain Ddigidol, a’r hyn y gellir ei ddefnyddio i’w wneud. O gerddoriaeth draddodiadol hyd at sainluniau artsitaidd, y gyfrinach ydy deall y peiriant sy’n creu’r sain. Dyma’r cyfle i loywi eich sgiliau neu drïo rhywbeth newydd. Mae gan sain ddigidol lawer o genres, a byddwch yn gadael gyda’ch trac sain unigryw eich hun, yn barod i fod yn artist sain!
 
Ynglŷn â’r artist:
Ges i fy magu yng ngogledd Cymru, yn treulio’r rhan fwyaf o’n amser wedi fy nghloi yn stiwido fy nhad gan chwarae o gwmpas efo synths Yamaha MSX’s, Atari ST, Roland a Korg a thapiau ril-i-ril. Wnes i ddianc o’r stiwdio a mynd i wneud BA Hons mewn Technoleg Cerddoriaeth Greadigol, gan arbennigo mewn Amlgyfryngau. Arweiniodd hyn yn y diwedd at sefydlu www.mediapod.co.uk bron 10 mlynedd yn ôl. Dwi rŵan yn treulio llawr o f’amser yn gweithio gydag artistiaid ifainc ac yn cyfansoddi ar gyfer theatr, ffilmiau hyrwyddo a dawns yn ogystal ag ailgymysgu a chael yr amser weithiau i sgwennu fy narnau fy hun!
 
£12.50 y gweithdy neu 3 am £30.
Gweithdai yn cynnwys torriad 1 awr. Dewch â bocs bwyd.
 
Be' ydy Portffolio?
 
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
 

Booking: 

Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191. (10.30yp - 5.00yh, Mawrth - Sul)
 

Neu archebwch ar-leinhttps://www.eventbrite.co.uk/o/mostyn-gallery-portffolio-project-14207983533