
- Gweithdy
Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed
11.00yb - 5.00yh
Dysgwch sut i grefftio ac animeiddio eich ffilm eich hun
Bydd gweithdy Elly Stringer yn edrych ar gymeriad a chynllunio set, ac ar animeiddio gan ddefnyddio llwyfannau Stop-symudiad. Dewch â’ch creadigaeth od yn fyw wrth ddefnyddio technoleg cipio symudiadau, gan ddysgu egwyddorion symud ac amseru. Byddwch yn gadael gydag animeiddiad byr a’r cyfan dach chi angen ei wybod er mwyn dod yn animeiddydd yn y cartref!
Ynglŷn â’r artist::
Artist yng ngogledd Cymru ydy Elly, gyda’i gwaith yn cynnwys darlunio, animeiddio ac adrodd straeon. Mae hi’n canolbwyntio ar ddylunio, gwneud printiau, collage a chyfryngau cymysg, ac mae hi wedi’i hysbrydoli gan lawer o bethau gan gynnwys gwrthrychau cyffredin, pobl, dychymyg, ac yn enwedig ei bachgen bach, sy’n darlunio ac animeiddio ers iddo fod yn lwmp.
£12.50 y gweithdy Portffolio neu 3 am £30
Gweithdai yn cynnwys torriad 1 awr. Dewch â bocs bwyd.
Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
Booking:
Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191. (10.30yp - 5.00yh, Mawrth - Sul)
Neu archebwch ar-lein: https://www.eventbrite.co.uk/o/mostyn-gallery-portffolio-project-1420798...