
- Gweithdy
Portffolio: dosbarthiadau meistr i bobl 14 - 18 oed
11.00yb - 5.00yh
Darganfyddwch fyd llanestog, lliwgar celf graffiti
Bydd gweithdy Andy Birch yn dysgu popeth dach chi ei angen er mwyn dod yn artist graffiti. Dysgwch sut i ffurfio a chreu eich ‘tagiau’ eich hun gan ddefnyddio technegau peintio gwahanol. Bydd Andy yn eich arwian drwy’r ffyrdd y gall celf graffiti ei defnydio ar y stryd a thu mewn, wrth ailwampio gofodau a gwneud datgniadau. Erbyn diwedd y gweithdy bydd gennych chi eich celf graffiti eich hun.
Ynglŷn â’r artist:
Mae Andy ‘Dime One’ Birch wedi bod yn artist graffiti ers dros 30 mlynedd, gan weithio o’i gartref ym Mae Colwyn a thrwy ogledd Cymru. Mae Andy’n arbenigo mewn gwaith murlun, a gweithdai gydag ysgolion a chlybiau ieuenctid drwy ogledd-orllewin Lloegr. Mae’n peintio ac yn canolbwyntio ei gelf ar brosiectau cymunedol, hyd at blaciau enw personol bach.
£12.50 y gweithdy neu 3 am £30.
Gweithdai yn cynnwys torriad 1 awr. Dewch â bocs bwyd.
Be' ydy Portffolio?
Mae rhaglen Portffolio MOSTYN yn rhan o Griw Celf a ariennir gan Cyngor y Celfyddydau Cymru fel menter i bobl ifanc sydd ag angerdd â’r celfyddydau. Fe’i anelir at fyfyrwyr yng Nghonwy sydd rhwng 14eg i 18 oed, a nôd y rhaglen yw meithrin a chefnogi myfyrwyr mwy galluog a thalentog.
Booking:
Archebu lle'n hanfodol. Ffoniwch 01492 868191. (10.30yp - 5.00yh, Mawrth - Sul)
Neu archebwch ar-lein: https://www.eventbrite.co.uk/o/mostyn-gallery-portffolio-project-14207983533