Sarah Wilkie - Dosbarth Meistr Gemwaith

  • Gweithdy

Sarah Wilkie - Dosbarth Meistr Gemwaith

2 Gorffennaf 2016, 10:30am to 4:00pm

Yn ystod y dosbarth meistr hwn, byddwch yn cael y cyfle i greu crogaddurn gan ddefnyddio arian a metelau eraill. Bydd Sarah yn eich tywys drwy'r broses ddylunio a chreu er mwyn creu crogaddurn unigryw, o'ch dyluniad chi, gan ddefnyddio siapau syml. Byddwch yn gwneud hyn drwy gael eich cyflwyno i dechnegau traddodiadol creu gemwaith, fel tyllu, gweadu, sodro a sgleinio. Bydd pawb sy'n cymryd rhan yn gadael gydag o leiaf un crogaddurn.

Cost: £65 y pen, yn cynnwys deunyddiau. Mae'n rhaid i chi gadw eich lle yn y digwyddiad hwn.

Bydd lluniaeth ysgafn ar gael. Mae croeso i chi dodd â'ch cinio eich hun, neu gael rhywbeth o'n caffi.

Am ragor o wybodaeth neu i archebu lle: Ffoniwch 01492 868191 neu ebostiwch [email protected]