On The Edge

Exhibition

On The Edge

Celfyddydau Anabledd Cymru - Arddangosfa Agored 2018
12 Ionawr - 3 Mawrth 2019

Andrew Bolton / Glyn Brimacombe / Andrew Busbridge-King / Vivi-Mari Carpelan / Paddy Faulkner / Carrie Francis / Sian Healey / Jacqueline Jones / Cerys Knighton / Suzie Larke / Scott Michael / Rosemarie O'Leary / David Peacock / Susan Price / Dawn Richards / Tina Lucas Varnfield / Rachel Wellbeing / Paul Whittaker / Donna Williams / Jan Williams / Terence-Jaiden Wray

On the Edge ydy’r teitl ar gyfer Arddangosfa Agored 2018 DAC; gofynnwyd i aelodau DAC ymateb i’r teitl hwn a chyflwyno gwaith ar sail eu dehongliad eu hunain. Mae’r arddangosfa’n cynnwys ystod eang o waith gan artistiaid ar wahanol bwyntiau yn eu datblygiad creadigol. Nod DAC ydy codi proffil yr artistiaid sydd ynghlwm; cynyddu gwerthiannau gwaith celf; cefnogi a datblygu dilyniant gyrfa ac i feithrin perthynas rhwng cyfoedion a gyda lleoliadau sy’n arddangos.

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru (DAC) yn credu bod gan bobl B/byddar ac anabl gyfraniad cyffrous a gwerthfawr i'w wneud i'r celfyddydau yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio gydag unigolion a sefydliadau i ddathlu amrywiaeth celfyddydau a diwylliant pobl B/byddar ac anabl; a meithrin cydraddoldeb a datblygu cyfleoedd cyfartal i gymryd rhan mewn arfer creadigol. Fel asiantaeth eirioli genedlaethol, mae DAC yn darparu amrywiaeth o gefnogaeth a chyngor creadigol, hyfforddiant (Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd a Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl), a chyfleoedd datblygu proffesiynol i oddeutu 300 o aelodau sy'n gweithio ar draws Cymru.

Mae DAC yn gleient Portffolio Celfyddydol Cymru, ac yn brif sefydliad ar gyfer Anabledd a’r Celfyddydau yng Nghymru, gyda swyddfeydd rhanbarthol yng Ngogledd-orllewin, Gogledd-ddwyrain, Gorllewin a De Cymru. Mae DAC wedi bod yn rhedeg am 35 mlynedd ac yn y cyfnod hwnnw, mae’r sefydliad wedi datblygu cyfoeth o wybodaeth, sgiliau a phrofiad ym maes arbenigol eirioli yn y celfyddydau; ac wedi’i gyfeirio’n benodol i gefnogi'r bobl hynny sydd ag anghenion ychwanegol oherwydd cyflyrau iechyd corfforol a / neu feddyliol hirdymor. Rydym yn elusen gofrestredig ac yn sefydliad aelodaeth, sy'n darparu llais i bobl B/byddar ac anabl drwy Gymru ym mhob mater sy'n ymwneud â'r celfyddydau.

Sponsored by: 


Supported by: