Iain Perry [Print Garage]

Exhibition

Iain Perry [Print Garage]

Picseli, Barddoniaeth a Diwylliant Pop
22 Hydref - 29 Ionawr 2017

Egyr ein cyfres newydd o arddangosfeydd unigol yn dathlu gwaith argraffu cyfoes yn Oriel 6 gyda gwaith Iain Perry o Swydd Stafford [Print Garage].

 

Daw ei ysbrydoliaeth o dechnoleg, offer, teganau, cloriau recordiau a byd gwyddoniaeth ac mae gwaith Iain yn gasgliad o ludwaith ac argraffiadau sgrin sy'n archwilio ei ddiddordeb parhaus mewn diwylliant pop, sinema, barddoniaeth ac effemera argraffedig arall.

 

Mae pob argraffiad ar werth gyda neu heb ffrâm, ac mae'r Cynllun Casglu yn eich galluogi i brynu darnau o gelf a chrefft gyfoes ac unigryw dros gyfnod o 12 mis yn ddi-log.