Jacqueline de Jong: The Ultimate Kiss
The Ultimate Kiss – Jacqueline de Jong mewn Sgwrs â Churadur yr Arddangosfa Juliette Desorgues
Mae Jacqueline de Jong yn cael ei hystyried yn un o ffigurau artistig hanfodol yr avant-garde ôl-ryfel. Mae'r arddangosfa hon yn gyflwyniad unigol sefydliadol cyntaf o'i gwaith yn y DU. Trwy gydol ei gyrfa yn rhychwantu hanner canrif, mae de Jong wedi datblygu arfer arluniol unigryw. Yn fynegiadol o ran arddull, mae ei gwaith yn arddangos yr erotig, trais a hiwmor di-rwystr. Ochr yn ochr â’i gwaith fel peintiwr, mi oedd hi'n olygydd The Situationist Times (1962-1967) ac yn aelod o’r Situationist International yn ystod ei blynyddoedd cynnar ym Mharis yn y 1960au.
Ganwyd Jacqueline de Jong ym 1939 yn Hengelo, Yr Iseldiroedd. Mae hi'n byw ac yn gweithio yn Amsterdam, Yr Iseldiroedd.
Curadwyd gan Juliette Desorgues (Curadur y Celfyddydau Gweledol, MOSTYN) a'i drefnu mewn cydweithrediad â WIELS lle bydd yr arddangosfa'n cael ei chyflwyno gan Xander Karskens (Cyfarwyddwr, De Ateliers) a Devrim Bayar (Curadur, WIELS) (1 Mai - 15 Awst 2021). Bydd yr arddangosfa yn teithio i Kunstmuseum Ravensburg, yr Almaen ym 2022.
Cefnogir yr arddangosfa yn garedig gan: The Mondriaan Fund, Llysgenhadaeth yr Iseldiroedd, Llundain, The Tyrer Charitable Trust, Dürst Britt & Mayhew Gallery, The Hague a Pippy Houldsworth Gallery, Llundain.
Mae catalog arddangosfa Jacqueline de Jong: The Ultimate Kiss, yn cynnwys testunau gan Devrim Bayar, Juliette Desorgues, Alison Gingeras, Xander Karskens a Niña Weijers, ac a gyhoeddwyd gan Fonds Mercator, ar gael i'w prynu o Siop MOSTYN neu ar gael i'w harchebu ar-lein.
Canllaw Arddangosfa
The Ultimate Kiss canllaw arddangosfa fformat mawr
Sponsored by:
The Tyrer Charitable Trust