James Morris
Mae James Morris yn ymchwilio tirluniau, yn edrych am y storïau tu ôl iddynt. Ei brif ddiddordeb i’w edrych ar sut mae pobl wedi newid y tir, a’r haenau o hanes sy’n amlwg yn y byd o’n cwmpas. Mae’r lluniau sy’n yr arddangosfa’n dangos y tirlun Cymreig – yn aml yn cynnwys pobl – ar bwynt tyngedfennol yn ei hanes, degawd ar ôl sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae yma wrthgyferbyniadau; o’r tirluniau welir gan yr ymwelwyr yn y mannau mwyaf poblogaidd lle mae cymaint o dwristiaid yn heidio i gael pleser
a dihangfa, i’r rhai sy’n gyffredin i’r trigolion, y terasau ôl-ddiwydiannol a’r strydoedd cefn, y maestrefi a’r trefi bach. Gan fyfyrio ar bynciau fel hunaniaeth, amddifadedd, ymelwad ac adfywio mae’r delweddau sydd o gryn faint yn dangos gwlad o harddwch a chaledi; yn sialens i’r ddelwedd dwristaidd ystradebol ac yn ystyriol
o sefyllfa Cymru heddiw.
Arddangosfa gan Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Cefnogwyd y prosiect gan Nawdd Cynhyrchu Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Cyngor Llyfrau Cymreig ac Ymddiriedolaeth Graham dros Astudiaethau Pellach mewn Celfyddyd Gain.