Kelp: Dan Rees
Mae MOSTYN | Cymru’n falch o gyflwyno arddangosfa ar y testun Kelp gan Dan Rees o Abertawe. Man cychwyn Rees ar gyfer Kelp yw ei hoffter ei hun o fara lawr, sy’n cael ei anfon ato o Gymru i’w stiwdio ym Merlin.
---
Mae o’r farn fod bwyd o wymon heb eto dderbyn y sylw haeddiannol. Mae hynny’n arbennig o wir wrth ystyried y fasnach mewn gwymon mewn gwledydd eraill, yn arbennig yn Asia ble mae wedi bod yn fwyd sylfaenol ers canrifoedd.
Mae’r ymdriniaeth hon o hunaniaeth genedlaethol a threftadaeth Cymru yn gwbl nodweddiadol o waith arall Rees sy’n aml wedi ei ysbrydoli gan agweddau unigryw ei fagwraeth, ei gefndir a’i fro enedigol. Caiff ei ymateb i le ac amser, yn ogystal â materion sy’n ymwneud ag atgof, y cyffredin ac, yn aml, cyd-destun celf, ei ddefnyddio bron fel cyfrwng ynddo’i hun yn ei weithiau celf sy’n amrywio o baentio, darlunio, cerflunio a darnau’n seiliedig ar sain.
Trwy nifer o wahanol ymdriniaethau – yn eu mysg, dylunio pecynnau, ffotograffiaeth, cerflunio a chartwnau dychanol – yn Kelp, caiff masnach Cymru mewn gwymon a bara lawr ei ail-feddwl, ei ail-ystyried gan apelio at y defnyddiwr cyfoes.
Supported by:
Trefnwyd mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru – National Museum Wales ac fe'i cefnogir gan y Colwinston Charitable Trust.