Laura Reeves
Ganed Laura Reeves ym 1987 ac mae’n byw ac yn gweithio yn Abertawe. Gellid cymharu dull Reeves, yn rhannol, gyda gwaith ditectif. Mae prosess o ymchwil trylwyr – archwilio tarddiad, ystyr a phwrpas – yn nodweddiadol o’i gwaith. Mae ei gwaith, sy’n canolbwyntio ar y gorffennol, a sut y daw’r gorffennol yn bresenol, yn tyrchu trwy ei bywgraffiad ei hun, sy’n ffurfio canolbwynt i’w harddangosfa ym MOSTYN.
Bydd llyfryn lliw yn cyd-fynd â‘r arddangosfa hon gydag ysgrif a chyfweliad gyda Churadur Rhaglen Celf Weledol MOSTYN, Adam Carr.
Mae Oriel 6 a’i rhaglen gysylltiedig ‘Esgyn’ yn cynnig arddangosfeydd unigol cyntaf i artistiaid mewn sefydliad cyhoeddus yn y DU ac yn rhoi cefnogaeth i greu gwaith newydd.