Mae hi'n gweld y cysgodion
Digwyddiad Agoriadol: Dydd Sadwrn 14 Gorffennaf 4.00 - 6.00 yh
Rydym yn falch i cyflwyno'r cydweithrediad cyntaf oddi ar y safle gan DRAF (David Roberts Art Foundation) gyda gweithiau gan:
Caroline Achaintre, Horst Ademeit, Fiona Banner, Sara Barker, Phyllida Barlow, Neil Beloufa, David Birkin, Karla Black, Carol Bove, Martin Boyce, Boyle Family, Lea Cetera, Susan Collis, Thomas Demand, Jason Dodge, Theaster Gates, Isa Genzken, Rodney Graham, Harry Gruyaert, Jeppe Hein, Marine Hugonnier, Pierre Huyghe, Matthew Day Jackson, Tatsuya Kimata, Rachel Kneebone, Elad Lassry, Bob Law, Nina Beier & Marie Lund, Kris Martin, Marlie Mul, Nika Neelova, Man Ray, Magali Reus, Pietro Roccasalva, Analia Saban, Erin Shirreff, Monika Sosnowska, Oscar Tuazon, Gavin Turk, Franz West, Douglas White.
“She sees the shadows… she even counts the tree-trunks along a promenade by the shadows, but sees nothing of the shape of things.”*
Yn 1886, gwelodd menyw 22 oed yn Lyon y byd o’i chwmpas am y tro cyntaf. Roedd gwrthrychau yr oedd wedi arfer eu hadnabod drwy eu cyffwrdd yn awr yn anodd eu dirnad wrth eu gweld am y tro cyntaf, ac mae cysgodion yn ymddangos yn fwy pendant na ffurfiau soled. Mae’r claf a’i meddygon yn disgrifio pa mor rhyfedd oedd pethau cyfarwydd yn ymddangos fwyaf sydyn, ac mae’n sôn am ei phrofiad o’r byd fel rhywun a oedd yn gweld am y tro cyntaf.
Cafodd profiadau’r claf eu cofnodi gan Marius Von Senden yn ei lyfr Space and Sight ynghyd ag achosion tebyg lle'r oedd pobl wedi adennill eu golwg rhwng y blynyddoedd 1020 a 1932. Mae’r cofnodion gafaelgar hyn wedi dylanwadu ar lenorion, fel Maggie Nelson sy’n dyfynnu disgrifiad claf 13 oed o’r tro cyntaf iddi weld llaw yn ei cherdd Something Bright, Then Holes. Mae’r disgrifiadau hyn o batrymau o gysgodion a goleuni yn mynegi sut y mae rhywbeth cyfarwydd, o’i weld mewn ffordd newydd, yn gallu dangos prydferthwch nad oedd wedi cael ei gydnabod cyn hynny.
Mae’r arddangosfa hon yn edrych ar newidiadau mewn canfyddiad o wrthrychau a deunyddiau ym mywyd pob dydd heddiw. Mae’r artistiaid yn yr arddangosfa hon wedi edrych eto ar wrthrychau pob dydd mewn ffyrdd annisgwyl, gan wahodd y sawl sy’n edrych arnynt i weld nodweddion a naratif amgen ynddynt.
Daw’r gweithiau o gasgliad sefydledig, ond ym mhob arddangosfa maent yn cynhyrchu perthnasoedd a deialog newydd, gan amlygu’r gwahanol syniadau sydd wedi eu ffurfio.
*M. Von Senden (trans. P. Heath), Space and Sight: the perception of space and shape in the congenitally blind before and after operation, 1932, Methuen & Co. Ltd.: London, 1960.
Mae hi’n gweld y cysgodion yn fenter ar y cyd rhwng DRAF a MOSTYN, sydd wedi’i churadu gan Olivia Leahy (DRAF) ac Adam Carr (Curadur Rhaglen Celfyddydau Gweledol, MOSTYN).
Cychwynnwyd ar Gasgliad David Roberts yng nghanol y 1990au, ac mae’r Casgliad ar hyn y bryd yn cynnwys mwy na 2,000 o weithiau. Mae’r pwyslais ar gelf gyfoes ond mae hefyd yn cynnwys rhai gweithiau modern. Nid yw’n canolbwyntio ar gyfryngau, cenedlaethau nac ardaloedd daearyddol penodol. Mae’r Casgliad yn archif o ffurfiau a chysyniadau sy’n esblygu. Mae gweithiau o’r Casgliad yn cael eu harddangos yn rheolaidd gan DRAF (Sefydliad Celf David Roberts) ac yn rhyngwladol fel arddangosfeydd mewn sefydliadau eraill..
Mae DRAF (Sefydliad Celf David Roberts) yn sefydliad annibynnol, dielw ar gyfer celf gyfoes. Ers ei sefydlu yn 2007, mae DRAF wedi croesawu dros 100,000 o ymwelwyr i raglenni rhyngwladol sy’n cynnwys arddangosfeydd, gwaith comisiwn, perfformiadau a thrafodaethau. Hyd yma, mae DRAF wedi gweithio mewn partneriaeth â dros 100 o amgueddfeydd, sefydliadau, a mudiadau dielw ac mae wedi cydweithio â dros 1,000 o artistiaid. Yn Hydref 2017, dathlodd DRAF ei 10fed pen blwydd gyda chynlluniau cyffrous i ehangu’r rhaglen yn sylweddol o’i bencadlys yn Llundain. Mae DRAF wedi lansio rhaglen uchelgeisiol ar gyfer y DU gyfan yn 2018. Mae’r David Roberts Art Foundation Limited yn elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr (Rhif 1119738). Mae’n falch o gefnogaeth grŵp cwmnïau Edinburgh House Estates.