MOSTYN Agored 20

Exhibition

MOSTYN Agored 20

8 Gorffennaf - 5 Tachwedd 2017
8 Gorffennaf - 5 Tachwedd 2017

Artistiaid Dethol
Sarah Bernhardt, David Berweger, Rudi Bogaerts, John Bourne, Manuel Caldeira, Alex Edwards, Matteo Fato, Joe Fletcher Orr, David Garner, Mitchell Kehe, Eli Keszler, Ilona Kiss, Jadranka Kosorcic, Catherine Large, Alyona Larionova, Sophie Lee, Gal Leshem, Jessica Lloyd-Jones, Laura Malacart, Oliver McConnie, Tom Milnes, Yelena Popova, Louise Short, Andrew Stooke, Tom Verity, Gernot Wieland, Driant Zeneli.

Ers ei ddechreuad yn 1989, mae’r Mostyn Agored wedi galw allan am artistiaid o unrhyw oedran ac o le bynnag y maent yn breswyl i gynnig gwaith i gael ei feirniadu a’i ddewis gan banel o feirniaid ac yna ei gyflwyno yn arddangosfa Mostyn. Dyfarnir gwobr o £10,000 gan y panel i artist unigol neu ar y cyd, a chyhoeddir yr enillydd yn yr arddangosfa ym Mehefin, 2017. Bydd gwobr ychwanegol o £1,000 - Gwobr y Gynulleidfa – a benderfynir gan yr artist a dderbynith y mwyafrif o bleidleisiau gan ymwelwyr o’r cyhoedd yn ystod yr arddangosfa a bydd yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd yr arddangosfa.

Mae’r dewisiadau o artistiaid i Agored 20 Mostyn yn cynrychioli'r cynnydd parhaol ym mhroffil rhyngwladol y galeri gyda chyfranogwyr wedi eu lleoli yng Ngwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Portiwgal, Eidal, Swistir, Tsiena, Awstralia, Unol Daleithiau America a Phrydain Fawr.

Cafodd Agored 20 Mostyn eu dewis gan Lydia Yee, Prif Guradur, Oriel Whitechapel, Llundain; Chus Martínez, Curadur a Phennaeth Sefydliad Celf, FHNW, Academi Celf a Dylunio, Basel; Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, MOSTYN; Adam Carr, Curadur y Rhaglen Celf Weledol, MOSTYN.