MOSTYN Agored 2011

Exhibition

MOSTYN Agored 2011

21 Mai - 9 Gorffennaf 2011

Mae’r Mostyn Agored yn ôl! Ers 1989 bu’r arddangosfa agored hon yn hwb i yrfa llawer o artisitiaid blaengar. Mae dethol gwaith heb wybododaeth enw na chefndir arddangos yr artist rhoi artistiaid ifanc yn yr un safle ag artistiaid mwy profiadol ac mae’r arddangosfa o beantiadau, lluniadau, cerflunwaith, ffotograffiaeth a gwaith fideo o hyd yn cyflwyno darlun diddorol o dueddiadau a phryderon cyfredol. Cafodd y 48 artist yn MOSTYN 2011 eu dethol o dros 1000 o gynigion gan yr artist Richard Wentworth a’r curaduron Karen MacKinnon ac Anders Pleass. Bydd yr enillydd yn derbyn £10,000 yn Wobr Mostyn Agored 2011.

_‘Roedd yn fraint cael fy ngwahodd i fod yn un o’r detholwyr ar gyfer arddangosfa Agored Mostyn eleni ac roedd cael casgliad mor helaeth o gynigion yn anhygoel. Roedd yn wych i weld gwaith o gymaint o wahanol safbwyntiau a diwylliannau ac ym mhob cyfrwng posib bron. Mae’r nifer o artistiaid yn yr arddangosfa eleni yn adlewychru’n dyhead i gynnwys llawer o’r cynigion. Mae’r themâu a archwilir wrth gwrs, mor wahanol a’r cyfryngau ddefnyddir, ond mae nifer o syniadau a phynciau cysylltiedig yn rhedeg trwy’r arddangosfa o’r barddol i’r gwleidyddol’.

 

Karen MacKinnon, Curadur Arddangosfeydd, Oriel Gelf Glynn Vivian