Nick Hornby: Sygotau a Chyfaddefiadau

Exhibition

Nick Hornby: Sygotau a Chyfaddefiadau

ailagor 19 Mai tan 20 Mehefin 2021
14 Tachwedd - 20 Mehefin 2021
Bydd yr arddangosfa hon yn ailagor ddydd Mercher 19 Mai 2021. Ar agor: Mawrth - Sul 11yb – 4yp.
 
Mae Nick Hornby yn siarad am ei arddangosfa newydd 'Sygotau a Chyfaddefiadau' ym MOSTYN
 

 
 
Mae arddangosfa unigol gyntaf Nick Hornby, enillydd ‘Gwobr y Gynulleidfa’ MOSTYN Agored 21, yn y DU yn cynnwys cyfres newydd o gerfluniau. Mae Hornby yn cyflwyno prosesau uwch-dechnoleg wrth greu ffigurau, gan ddod â ffurfiau hanesyddol, materol i gyfnod diwylliant y sgrin. Mae ei waith yn herio gwahaniaethau nodweddiadol o ran ffurfiau a chyfryngau, ac yn lle hynny, mae’n arddangos yr hyn y mae Hornby yn ei alw’n 'feta-giwbiaeth'. Yn y dull lluosogaethol hwn tuag at ganfyddiad, nid yw delwedd na ffurf yn denu ein prif sylw. Cynhyrchir y cerfluniau gan ddefnyddio prosesau digidol a diwydiannol, ond mae ôl llaw'r artist yn dal yn amlwg drwy’r broses derfynol lle caiff delwedd hylifol ei hychwanegu at bob gwaith.
 
Archwilir rhyw a hunaniaeth rywiol gan yr artist yn y gyfres newydd hon am y tro cyntaf. Er nad yw gwaith blaenorol Hornby wedi cynnwys cysylltiadau hunangofiannol, yma mae'n archwilio ymdeimlad o breifatrwydd personol neu 'gyfaddefiadau'.
 
Ar gyfer yr holl gysylltiadau rhwng ffurf ei gerfluniau a'u pwnc, mae gwaith Hornby hefyd yn amwys a chwareus. Mae hyn yn ychwanegu at eu hansawdd llyfn, tra bod syniadau hunangofiannol yn cael eu cymhlethu gan elfennau eraill. Gwnaed naw o'r cerfluniau newydd yma gyda'r ffotograffydd Louie Banks, sy’n enwog am ei ffotograffau o fodelau trawsryweddol a breninesau drag. O bellter, mae’r sglein arbennig sydd i orffeniad y gwaith - penddelwau cyfnewidiol a 'chŵn silff ben tân' - yn gwneud i rywun fod eisiau eu cyffwrdd. Mae'r hunaniaethau cyfnewidiol ac annelwig o fewn cerfluniau Hornby yn dod â dimensiwn arall i genre portreadau - gan symud o gerfluniau i ffotograffiaeth ac yn ôl eto, a hynny mewn ffordd ddididrol sy’n anodd ei diffinio.
 
Curadur:  Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, MOSTYN
 
Bydd monograff ar Nick Hornby, a olygwyd gan Matt Price, yn cael ei gyhoeddi gan Anomie yn 2021. Mae catalog o arddangosfa Sygotau a Chyfaddefiadau ar werth yn siop MOSTYN o fis Rhagfyr 2020.
 
Pecyn Adnoddau Artist
 
Amdan yr artist
 
Mae Nick Hornby (g. 1980) yn artist o Brydain sy’n byw ac yn gweithio yn Llundain. Astudiodd Hornby yn Ysgol Gelf Slade a Choleg Celf Chelsea.  Mae ei waith wedi'i arddangos yn Tate Britain, Canolfan Southbank, Llundain; Leighton House, Llundain; CASS Sculpture Foundation; Glyndebourne; Amgueddfa Fitzwilliam, Caergrawnt; Amgueddfa'r Celfyddydau a Dylunio, Efrog Newydd; a Poznan Biennale, Gwlad Pwyl.  Ymhlith y prosiectau preswyl mae Outset (Israel), Eyebeam (UDA), ac mae’r gwobrau y mae wedi’u cael yn cynnwys Gwobr UAL Sculpture. Mae ei waith wedi'i adolygu yn y New York Times, Frieze, Artfforwm, The Art Newspaper, The FT, a hefyd yn yr Architectural Digest a’r Sculpture Magazine.  
 

Supported by: 

The Moondance Foundation

Downloads: