Nobuko Tsuchiya
Mae'r corff newydd hwn o waith gan yr artist o Japan, Nobuko Tsuchiya, yn cael ei ddangos yng Nghymru am y tro cyntaf. Gan weithio’n bennaf gyda cherflunwaith, mae Tsuchiya yn defnyddio ystod eang o ddeunyddiau, gan gynnwys gwrthrychau’r cartref yn aml iawn, sydd wedi’u casglu dros amser, a’u cydosod a'u castio i greu gwrthrychau mecanyddol minimalaidd amorffaidd, hybrid.
Wedi'i gyflwyno ar draws llawr yr oriel, mae'r gwaith yn dechrau sgwrs gyda'i gilydd gan greu gosodiadau trawiadol a barddonol.
Drwy newid graddfa’n ofalus o’r bach iawn i’r tyngedfennol, mae gosodiadau Tsuchiya yn ymgysylltu â pherthynas y gwyliwr â’r gofod.
Mae ei cherfluniau'n cael eu trawsnewid yn gyson; storfa’r cof a’r profiad, yn arwydd o ddychymyg y gorffennol, y presennol a'r dyfodol, yn hofran ac yn symud drwy amser a gofod.
Supported by:
Cefnogwyd gan Anthony Reynolds Gallery, Llundain.