Ryan Gander

Exhibition

Ryan Gander

Chance Everything
19 Ebrill - 6 Gorffennaf 2014

Mae Chance Everything gan Ryan Gander yn cyflwyno ei waith presennol a darnau newydd. Mae gweithiau Gander wedi’u cysylltu gan broses o adrodd straeon ac mae’r ffordd maent yn dal dychymyg y gwyliwr yn eu nodweddu. Does dim cyfyngiadau yn ei waith o gwbl, ac mae’n amrywio o baentio i gerflunio ac o berfformio i osod – cymhleth ond eto’n dwyllodrus o syml o ran ymddangosiad.

Mae gweithiau Gander yn Chance Everything yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, cardigan wedi’i gwneud o wlân geifr gwyllt sy’n byw ar bentir cyfagos, y Gogarth, i’w gwisgo gan oruchwylwyr yr arddangosfa; hysbyseb teledu i hybu dychymyg y cyhoedd ym Mhrydain, fel pe bai wedi’i gomisiynu gan Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau llywodraeth Prydain; a chopi carbon o oriawr yr artist. Gan gadw at ei ffordd unigryw a nodedig yn aml o greu gwaith celf, mae ei weithiau yn yr arddangosfa’n tynnu sylw at gyfeiriadau amrywiol, o hanes celf a dylunio i agweddau ar fywyd bob dydd, ac o ddiwylliant poblogaidd i’w fywgraffiad ei hun. Mae’r gwylwyr yn gorfod penderfynu ar eu stori eu hunain o’r elfennau y mae wedi’u coreograffu.

Mae’n bleser gan MOSTYN I Cymru gyflwyno’r cyntaf mewn cyfres o arddangosfeydd sy’n dod ag arddangosfeydd unigol gan ddau artist at ei gilydd mewn sgwrs*. Mae’r sgwrs gyntaf hon yn gwahodd artistiaid – Ryan Gander a Bedwyr Williams – a gyfarfu am y tro cyntaf yn MOSTYN ryw bedair blynedd ar ddeg yn ôl.