Sean Edwards

Exhibition

Sean Edwards

Darlun Di-dor (rhan 3)
15 Tachwedd - 1 Mawrth 2015

Mae gwaith Sean Edwards yn archwilio potensial cerfluniol gwrthrychau bob dydd.

Mae gwaith Sean Edwards yn archwilio potensial cerfluniol gwrthrychau bob dydd. Er bod ei waith yn mynegi ei ymateb i’w ymgysylltiad ef gyda’r byd eang, yn nifer o’i ddarnau mae’n defnyddio gweddillion gweithgareddau blaenorol fel man cychwyn ac maent yn adleisio’r amser a dreuliasant yng nghyd-destun ei stiwdio.

Mae ei wrthrychau sydd wedi eu canfod neu eu creu, yn ogystal â‘i ddarluniau, ffotograffau a thoriadau, yn gwahodd ymateb gan y gynulleidfa gan danseilio’r syniad o’r gofod arddangos fel lle ar gyfer darnau celf llwyr orffenedig yn unig.

Wedi ei ariannu gan Ddyfarniadau Cymru Greadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Darlun Di-dor, yn arddangosfa deithiol gyda thair ‘gorsaf’: Chapter yng Nghaerdydd, Netwerk yn Aalst, Gwlad Belg ac yma ym MOSTYN.

 

Sponsored by: 

Wedi ei ariannu gan Ddyfarniadau Cymru Greadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru