Siwrnai Ddychwelyd

Exhibition

Siwrnai Ddychwelyd

18 Ionawr - 6 Ebrill 2014

Mae Siwrne Ddychwelyd yn arddangosfa sy’n gweithredu fel taith unigryw o gwmpas y Deyrnas Unedig. Ynddi cyflwynir gweithiau celf gan artistiaid o bob cwr o’r DU, gyda phob un yn ymdrin â, ac yn cyfeirio at y gwahanol lefydd ble ganwyd neu magwyd yr artist.

O edrych ar y tir trwy lygad artist mae’r arddangosfa’n myfyrio ar y cysyniad o blentyndod, bywgraffiad, lle, amser a datblygiad artistig yn ogystal ag ar greu celf ac iaith celf ynddo’i hun.

---

Richard Bevan (Maesteg) | Alice Channer (Oxford) | James Clarkson (Burton) | Lucas Clayton (Llandudno/Colwyn Bay) | Melanie Counsell (Pentyrch) | Sean Edwards (Cardiff) | Tracey Emin (Margate) | Simon Fujiwara (St Ives) | Ryan Gander (Chester) | Andrew Grassie (Edinburgh) | Dean Hughes (Salford) | Alan Kane & Simon Periton (Faversham) | Mark Leckey (Ellesmere Port) | Jonathan Monk (Leicester) | Scott Myles (Dundee) | Laura Reeves (Exeter) | Paul Seawright (Belfast) | Sue Tompkins (Leighton Buzzard) | Tris Vonna-Michell (Southend-on-sea) | Jessica Warboys (Newport) | Emrys Williams (Liverpool)

Mae Siwrne Ddychwelyd yn rhannol wedi ei ddatblygu er mwyn dynodi ffordd newydd o gyflwyno gwlad neu ranbarth penodol. Er bod nifer o arddangosfeydd wedi ystyried gwead presennol a gorffennol y DU – gan geisio, yn bennaf, nodweddu, diffinio a sefydlu genres celf neu ennydau mewn hanes celf – ychydig iawn ohonynt sydd wedi archwilio’r Deyrnas Unedig ei hun, os o gwbl. Mae’r arddangosfa hon yn taro golwg lythrennol ar y tir mewn perthynas â‘r celfyddydau gweledol gan ddangos darlun ehangach o’r DU, un sydd y tu hwnt i’r canolfannau celf sefydledig. Wrth wneud hyn mae cwestiynau’n codi, megis: Sut beth ydi byw a gweithio yn y Deyrnas Unedig? Beth sy’n nodweddu lle a phobl ac ym mha fodd y maent yn ysgogi creadigrwydd?

Mae’r arddangosfa, sy’n dod â gwaith sydd eisoes yn bod a gwaith newydd at ei gilydd, yn cynnwys paentiadau, cerfluniau, ffotograffau a gwaith sy’n seiliedig ar berfformio. Mae rhai artistiaid yn anerch bro eu mebyd yn eithriadol fanwl ac eraill yn cynnig darnau bach o orffennol, lle ac amser. Yn ei gyfanrwydd mae’r cyflwyniad yn tywys y gwyliwr ar daith ‘yn ôl adref’. Mae’n rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa fyfyrio ar eu safleoedd ei hunain, i ystyried eu hanes ei hunain ac mae’n gyfle unigryw i gysylltu â‘r DU ac arddangosfeydd.

Bydd ail ran yr arddangosfa yn cael ei chynnal ym MOSTYN yn 2017, gan archwilio ardaloedd eraill o’r DU wrth barhau ar ei thaith a’i rhychwant