WAGSTAFF'S
Man cychwyn WAGSTAFF’S yw siop gwerthu pianos ac offerynnau cerdd o’r un enw, a arferai fod yn adeilad presennol MOSTYN cyn iddo gael ei adfer yn oriel gelf yn yr 1970au.
Artistiaid Cyfrannog: Zarouhie Abdalian, Saâdane Afif, Cory Arcangel, John Baldessari, Simeon Barclay, Alex Bartsch, Jacqueline Bebb, Andrea Büttner, Anne Collier, Claire Fontaine, Mario García Torres, Charles Gershom, Rebecca Gould, Gareth Griffith, Scott King, Adam McEwen, Dave Muller, Fernando Ortega, Hannah Rickards, Torbjørn Rødland, Anri Sala, Fabrice Samyn, Santo Tolone
ac
Chyflwyniadau hanesyddol yn ymwneud â siop Wagsaff’s a thref Llandudno
Wedi’i lleoli’n wreiddiol ym Manceinion, symudodd Wagstaff’s i 1 Stryd Vaughan yn Llandudno ddechrau’r 1940au ar ôl i’r siop ddinesig gael ei dymchwel yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac yn 1946, symudodd i rif 12, safle MOSTYN, Cymru heddiw.
Mae’r ffaith bod siopau cerdd fel Wagstaff’s wedi cael eu sefydlu ddiwedd y 19eg ganrif yn dangos pa mor bwysig oedd cerddoriaeth fel adloniant yng nghartref y teulu a thu hwnt. Mae llawer o’r siopau hyn wedi mynd i’r wal erbyn hyn o ganlyniad i newidiadau mewn technoleg ac arferion hamdden teuluoedd.
Mae WAGSTAFF’S yn ystyried y cysylltiad hirsefydlog rhwng cerddoriaeth a chelf, ac mae’n cofnodi dehongliad o safbwynt heddiw. Mae nifer o’r artistiaid sy’n rhan o’r arddangosfa wedi ymddangos gyda’i gilydd o’r blaen mewn sioeau sydd wedi dangos y cysylltiad rhwng y genre cerddoriaeth a’r maes celf. Yn hyn o beth, mae’r arddangosfa yn awgrymu rhai o agweddau mwyaf poblogaidd a dadleuol cerddoriaeth: y fersiwn ‘cover’, y copi a’r diwylliant recordio answyddogol.
Caiff yr arddangosfa ei chyflwyno ar fformat sy’n seiliedig ar bedwar categori a’i hysbrydoli gan siopau recordiau cerddoriaeth annibynnol, a fyddai’n categoreiddio cerddoriaeth yn ôl genre, ac sydd, ynghyd â siopau offerynnau cerdd, wedi lleihau mewn nifer. Bwriad y categorïau yw rhoi strwythur i’r ystod eang o ddulliau a’r defnydd o gerddoriaeth yn y celfyddydau gweledol, y cyflwynir llawer ohonynt yn yr arddangosfa. Mae’r fformat hefyd yn caniatáu cyfleoedd ar gyfer gorgyffwrdd a chymysgu, rhwng y categorïau a’r gwaith celf a gyflwynir.
Mae’r arddangosfa hon yn rhan o Gyfres Hanes* MOSTYN, sydd ers 2013, wedi archwilio treftadaeth adeilad MOSTYN, tref Llandudno a chysylltiadau ymhellach i ffwrdd. Mae’r gyfres wedi cyflwyno arteffactau a delweddau hanesyddol ochr yn ochr â gwaith gan artistiaid cyfoes, gan ffurfio llinyn rhwng y gorffennol a’r presennol.
Supported by: