Yr Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol

Exhibition

Yr Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol

Camille Henrot | FORT | Meirion Ginsberg
21 Mai - 17 Medi 2016

Fel man cychwyn, mae’r Ysgol Gelf, Gwyddoniaeth a Dosbarthiadau Technegol yn edrych ar y ffordd yr oedd adeilad MOSTYN yn cael ei ddefnyddio fel oriel gelf a sefydliad addysgol rhwng 1903 ac 1912.

Roedd pob math o arddangosfeydd yn cael eu cynnal, yn ogystal ag amrywiaeth o ddosbarthiadau a oedd yn rhoi addysg am wyddoniaeth a’r celfyddydau ochr yn ochr â phynciau eraill. Roedd rhai o'r pynciau a gynigiwyd yn cynnwys bywluniadu, tynnu lluniau goleuni a chysgod, gwaith gyda brwsh, tynnu lluniau geometregol, cerfio pren, gwaith metel, gwneud dillad, siarad cyhoeddus, cerddoriaeth, Ffrangeg a llaw-fer.

J. Hanmer Hutchings, a gafodd ei hyfforddi yn y Coleg Celf Brenhinol (fel y daeth i’w adnabod yn ddiweddarach) oedd pennaeth yr ysgol. Ynghyd ag amrywiol artistiaid a phobl academaidd eraill, roedd yn arwain y dosbarthiadau, a oedd yn cael eu hategu gan ddarlithoedd ar bynciau cysylltiedig. Ar gyfer yr arddangosfa, bydd yr orielau'n cael eu rhannu’n fannau arddangos unigol. Bydd pob ‘ystafell’ yn seiliedig ar ddisgyblaeth a phwnc penodol a oedd yn cael eu dysgu yn yr ysgol wreiddiol.

Rhyw gan mlynedd yn ddiweddarach, Adam Carr, Curadur Rhaglen Celfyddydau Gweledol MOSTYN, fydd curadur y ‘dosbarthiadau’ newydd, gydag arddangosfeydd unigol gan Camille Henrot, FORT a Meirion Ginsberg. Bydd ystafell ychwanegol yn edrych ar gyfnod yr ysgol gelf wreiddiol a’i chysylltiadau â’r presennol, ynghyd â hanes nifer o ysgolion lleol.

Mae’r tri artist wedi cael eu dewis am eu meistrolaeth a’u perthnasedd rhyngwladol, neu am eu menter a’u haddewid, yn nisgyblaethau penodol y dosbarthiadau, sef ‘tynnu lluniau gyda brwsh’ (Camille Henrot), ‘gwaith metel’ (FORT) a ‘goleuni a chysgod’ (Meirion Ginsberg). Bydd pob arddangosfa yn torri tir newydd ac yn cyflwyno syniad estynedig ynghylch y disgyblaethau hynny heddiw, gan gyfleu eu traddodiad ar yr un pryd. Defnyddir y termau yn y cyd-destun hwn gyda pheth eironi. Gellid dadlau bod y termau gwreiddiol wedi dyddio erbyn hyn a bod diffiniadau newydd wedi cymryd eu lle, neu'u bod wedi cael eu llyncu gan y term ‘Celf Gyfoes’. Yn baradocsaidd, maent yn cynnig ffyrdd newydd o weld a dehongli'r gwaith – yn yr un modd ag y mae’r Gyfres Hanes yn defnyddio’r gorffennol fel lens i ailystyried y presennol. Bydd y cyflwyniad hanesyddol yn cadw at ysbryd arddangosfeydd blaenorol ein Cyfres Hanes, gan ddefnyddio ymchwil drylwyr sy'n creu cysylltiadau cadarn ac annisgwyl gyda’r cyd-destun lleol, dathlu hanes yr adeilad a’r ardal gyfagos, a sefydlu llwybrau newydd i allu deall cymdeithas heddiw.

Ynglŷn â'r Gyfres Hanes
Trwy gyfuniad o destun hanesyddol, gwrthrychau a delweddau, a gwaith gan artistiaid cyfoes, mae pob arddangosfa yn y gyfres yn arsylwi cyfnod penodol yn hanes adeilad MOSTYN. Y bwriad yw cynnig cyfle i'r cyhoedd ymgysylltu â gorffennol MOSTYN, ac i'r gymuned leol archwilio'i hanes ei hun. Mae defnyddiau blaenorol yr adeilad yn cael eu defnyddio fel mannau cychwyn i ddarganfod llwybrau newydd i wneud a chyflwyno arddangosfeydd, ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd.

Supported by: 

Mae'r Loteri Genedlaethol yn ariannu arddangosfeydd 'Cyfres Hanes' trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.