EGWYL

Image

EGWYL

Bwrsari a Rhaglen Fentora cyhoeddiad artistiaid


Mae Grŵp Celfyddydau Gweledol Cymru (VAGW) yn falch iawn o gyhoeddi enwau deiliaid Rhaglen Fwrsari a Mentora Egwyl, a gefnogwyd gan Gronfa Adferiad Diwylliannol Cyngor Celfyddydau Cymru. Yn dilyn 68 sgwrs ac ymweliadau stiwdio ar-lein a gynhaliwyd rhwng Mawrth a Mai 2021, dyma gyhoeddi enw’r pump a delir yn llawn i ymgymryd â’r rhaglen Fentoriaeth a Datblygu Proffesiynol: Ffion Campbell-Davies, Lauren Clifford-Keane, Lal Davies, Marva Jackson Lord a Umulkhayr Mohamed.

Arweiniwyd y 68 sgwrs ac ymweliadau stiwdio ar-lein gan y Cydlynydd Mentora Sadia Pineda Hameed ynghyd â churadur gwadd o blith y sefydliadau sy’n aelodau o VAGW fel a ganlyn: Melissa Appleton (Cyfarwyddwr Creadigol, Peak), Simon Burgess (Rheolwr, Urdd Gwneuthurwyr Cymru), Letty Clarke (Curadur Rhaglenni Cyhoeddus, Artes Mundi), Alfredo Cramerotti (Cyfarwyddwr, MOSTYN), David Drake (Cyfarwyddwr, Ffotogallery) Melissa Hinkin (Curadur, Artes Mundi), Steffan Jones Hughes (Cyfarwyddwr, Oriel Davies), Charlotte Kingston (Curadur Artistig, Urdd Gwneuthurwyr Cymru), Karen MacKinnon (Curadur, Oriel Gelf Glynn Vivian), Jo Marsh (Cyfarwyddwr Creadigol, Tŷ Pawb), Sarah Pace (Cyd-gyfarwyddwr, Addo) a Nigel Prince (Cyfarwyddwr, Artes Mundi).

Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen VAGW.