RYDYM YN RECRIWTIO: Cydlynydd Rhaglen Lawrydd

Image

RYDYM YN RECRIWTIO: Cydlynydd Rhaglen Lawrydd

Hoffech chi weithio ochr yn ochr â'n tîm ym MOSTYN?

 

Mae MOSTYN yn chwilio am Cydlynydd Rhaglen Lawrydd i weithio ochr yn ochr â'r tîm.

Bydd y Cydlynydd Rhaglen Lawrydd yn gyfrifol am gyflwyno'r rhaglen PORTFFOLIO sydd ar ddod, ochr yn ochr â'r Cymrawd Dysgu ac Ymgysylltu Curadurol, Cydlynwyr Dysgu a'r Cynorthwyydd Dysgu ac Ymgysylltu. Bydd yr ymgeisydd yn cael y dasg o drefnu a darparu rhaglen ddatblygu ar gyfer artistiaid ifanc 14-18 oed i weithio gyda mentoriaid sydd yn artistiaid proffesiynol trwy gyfres o sgyrsiau a gweithdai a gyflwynir ar- lein a hefyd mewn lleoliad yn bersonol.

Dadlwythwch y disgrifiad swydd llawn a'r broses ymgeisio yma

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 16 Medi 2021 am 17:00.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal naill ai ar-lein neu'n bersonol rhwng dydd Mawrth 21 a dydd Mercher 22 Medi 2021. Bydd y rôl yn cychwyn o 4 Hydref 2021.